Ynysfor Chagos
Grŵp o saith atol yng Nghefnfor India yw Ynysfor Chagos sy'n cynnwys mwy na 60 o ynysoedd.
Ynysfor Chagos Archipel des Chagos | |
Math | ynysfor, tiriogaeth ddadleuol |
---|---|
Prifddinas | Diego Garcia |
Poblogaeth | 3,000 |
Sefydlwyd | ynysoedd dadleuol (yn ôl y DU); eiddo Mautitius, yn ôl cyfraith ryngwladol. |
Cylchfa amser | UTC+06:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India |
Gwlad | Mauritius |
Arwynebedd | 63.2 km² |
Gerllaw | Cefnfor India |
Cyfesurynnau | 6.28°S 72.08°E |
Yn swyddogol yn rhan o Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India, roedd y Chagos yn gartref i'r Chagosiaid, pobl sy'n siarad Bourbonnais Creole, am fwy na chanrif a hanner nes i'r Deyrnas Unedig ei hel allan rhwng 1967 ac 1973 i adael yr Unol Daleithiau adeiladu orsaf filwrol ar Diego Garcia, yr ynys fwyaf. Ers 1971, dim ond atol Diego Garcia sydd â phobl arno, a dim ond phersonél a staff yr orsaf filwrol yn unig.
Mae dadl am sofraniaeth ynysfor Chagos rhwng y DU a Mauritius. Torrodd y Deyrnas Unedig yr ynysfor allan o diriogaeth Mauritius yn 1965, dair blynedd cyn i'r wlad ennill annibyniaeth yn 1968.[1][2]
Ar 25 Chwefror 2019, dyfarnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol y dylai'r Deyrnas Unedig ildio perchnogaeth yr ynysfor. Gwrthododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig unrhyw awdurdod i'r llys benderfynu ar y materion hyn.[3][4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Time for UK to Leave Chagos Archipelago". Real clear world. Cyrchwyd 12 July 2012.
- ↑ Nichols, Michelle (22 June 2017). "U.N. asks international court to advise on Chagos; Britain opposed". Reuters. Cyrchwyd 23 June 2017.
- ↑ "UN court rejects UK's claim of sovereignty over Chagos Islands". The Guardian. 25 February 2019. Cyrchwyd 25 February 2019.
- ↑ “Rhowch ynysoedd Chagos yn ôl” meddai’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol , Golwg360, 25 Chwefror 2019. Cyrchwyd ar 26 Chwefror 2019.