Ynysfor ym Mae Bengal yng ngogledd ddwyrain Cefnfor India yw Ynysoedd Andaman. Lleolir ef rhwng isgyfandir India i'r gorllewin a'r gogledd orllewin, Byrma i'r gogledd a'r dwyrain, a Gorynys Maleia a Sumatra i'r de ddwyrain. Gelwir y corff o ddŵr rhwng yr ynysfor a de Byrma yn Fôr Andaman. Ynghyd ag Ynysoedd Nicobar, sy'n gorwedd rhwng yr Andaman a Sumatra, maent yn ffurfio tiriogaeth Ynysoedd Andaman a Nicobar yng Ngweriniaeth yr India. Mae'r ynysfor yn cynnwys mwy na 300 o ynysoedd a chanddynt arwynebedd cyfunedig o 6,408 km2. Y tair ynys fwyaf ydy Gogledd Andaman, Andaman Ganol, a De Andaman, a elwir gyda'i gilydd yn Andaman Fawr. Port Blair yn Ne Andaman yw prifddinas Ynysoedd Andaman a Nicobar.

Ynysoedd Andaman
Mathynysfor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladIndia Edit this on Wikidata
Arwynebedd6,408 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr732 metr Edit this on Wikidata
GerllawBae Bengal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.5°N 92.75°E Edit this on Wikidata
Map
Map o leoliad Ynysoedd Andaman yn Ne Ddwyrain Asia.

Poblogaeth yr ynysoedd yn 2011 oedd 343,125.[1] . Pobloedd brodorol yw'r mwyafrif o'r trigolion, ac mae tri ohonynt – y Sentinal, y Jarawa, a'r Onge – yn dal i fyw fel helwyr-gasglwyr. Amaeth yw prif diwydiant yr ynysoedd, a thyfir ŷd, codlysiau, cnau coco, cnau betel, ffrwythau, casafa, tsilis, a thyrmerig. O ran cludiant, De Andaman ydy'r unig ynys a chanddi ffyrdd, ac mae agerlong yn cysylltu Port Blair ag ynysoedd Gogledd Andaman, Andaman Ganol, De Andaman, ac Andaman Fach.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Provisional Population Totals (2011): Andaman and Nicobar Islands", Cyfrifiad India. Adalwyd ar 9 Chwefror 2019.
  2. (Saesneg) Andaman Islands. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Chwefror 2019.