Ynysoedd Arann

(Ailgyfeiriad o Ynysoedd Arainn)

Ynysoedd ger arfordir gorllewinol Gweriniaeth Iwerddon yw Ynysoedd Arann (Gwyddeleg: Oileáin Árann, Saesneg: Aran Islands). Safant yn rhan allanol Bae Galway. Maent yn un o gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg a'i diwylliant.

Ynysoedd Arann
Mathgrŵp o ynysoedd, ynysfor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirContae na Gaillimhe Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd51 km² Edit this on Wikidata
GerllawBae Galway Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.12°N 9.7°W Edit this on Wikidata
Map
Am yr ynys yn yr Alban, gweler Ynys Arran.

Mae tair ynys; y fwyaf yw Árainn Mhór neu Inis Mór, Inishmore yn Saesneg. Yr ynys ganol yw Inis Meáin neu Inishmaan, a'r lleiaf a'r fwyaf dwyreiniol o'r tair yw Inis Thiar neu Inis Oírr/Inis Oirthir, Saesneg Inisheer.

Dim ond yn gynharol ddiweddar y cafwyd trydan a moddion cyfathrebu dibynadwy ar yr ynysoedd hyn. Maent yn gyrchfan boblogaidd i dwristiad; heblaw y bywyd traddodiadol mae nifer o henebion diddorol ar Inis Mór, yn cynnwys caer nodedig iawn o Oes yr Haearn, Dún Aengus (Dún Aonghasa). Mae dau gwmni yn rhedeg gwasanaeth fferi i'r ynysoedd, ac mae Aer Arann yn hedfan yno o Inverin.

Yn Gort na gCapall ar Inis Mór y ganed Liam O'Flaherty, un o lenorion amlycaf yr Wyddeleg yn yr 20g, a brodor o Inis Mór oedd y bardd Máirtín Ó Díreáin hefyd. Dywedir i Sant Cybi ymweld a'r ynysoedd am gyfnod.

Ynysoedd Arann
Arfordir Inis Mór