Ynysoedd Prydain
Mae Ynysoedd Prydain[1] (weithiau yr Ynysoedd Prydeinig) yn derm a ddefnyddir gan rai pobl am ynysoedd Prydain Fawr (Prydain), Iwerddon ac Ynys Manaw, ynghyd â'r ynysoedd llai o'u cwmpas. Fel term daearyddol yn unig, fe'i defnyddir weithiau ar gyfer ynysoedd gwledydd Prydain (Yr Alban, Cymru a Lloegr), ond mae gwahaniaeth rhwng y termau Saesneg Islands of Britain (ynysoedd gwledydd Prydain) a British Isles.
Math | ynysfor, grŵp o ynysoedd |
---|---|
Poblogaeth | 71,891,524 |
Cylchfa amser | UTC+00:00, UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Beilïaeth Ynys y Garn, Beilïaeth Jersey, Ynys Manaw |
Arwynebedd | 121,684 mi² |
Uwch y môr | 1,343 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 54°N 4°W |
Yn Iwerddon mae'r term yr Ynysoedd Prydeinig (yn ei ffurf Saesneg British Isles) yn annerbyniol gan gyfran o'r boblogaeth, gan eu bod yn ystyried fod arwyddocâd gwleidyddol iddo fel term Seisnig sy'n dyddio o gyfnod Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon a'r Ymerodraeth Brydeinig. Fel canlyniad mae llywodraeth Iwerddon yn cyfeirio at Ynysoedd Prydain fel yr ynysoedd hyn, a defnyddir yn aml y term "Prydain ac Iwerddon". Gwrthodir y term gan eraill hefyd, e.e. gan rai Cymry ac Albanwyr, am yr un rheswm.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 34.