Ynysoedd Syllan
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ynysoedd Scilly)
Grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor Iwerydd i'r de-orllewin o Gernyw yw Ynysoedd Syllan (Cernyweg: Ynysek Syllan; Saesneg: Isles of Scilly neu'r Scillies). Mae 'na tua 140 o ynysoedd yn y grŵp ond dim ond 5 sydd â phobl yn byw arnyn' nhw, sef St Mary's (y fwyaf), Tresco, St Martin's, St Agnes a Bryher. Arwynebedd yr ynysoedd yw tua 16 km² (6 milltir sgwar).
![]() | |
Math | ynysfor, ardaloedd awdurdod lleol yn Lloegr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,242 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Prydain ![]() |
Sir | Cernyw, Cornwall ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 16.3376 km² ![]() |
Uwch y môr | 51 metr ![]() |
Gerllaw | Y Môr Celtaidd ![]() |
Cyfesurynnau | 49.9361°N 6.3228°W ![]() |
Cod SYG | E06000053 ![]() |
GB-IOS ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Ynysoedd Syllan ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ![]() |
Manylion | |
Cymerir mantais ar yr hinsawdd fwyn i dyfu blodau cynnar ar gyfer y farchnad Brydeinig. Ceir hefyd nifer o ffermydd llaeth a thyfir llysiau hefyd. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yn yr haf.
Ynys (Enw Cernyweg) |
Enw Saesneg | Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) |
Arwynebedd (km²) | Prif trefedigaeth |
---|---|---|---|---|
Ynys Ennor | St Mary's | 1,666 | 6.29 | Hugh Town, Ynysoedd Syllan |
Ynys Skaw | Tresco | 180 | 2.97 | New Grimsby, Ynysoedd Syllan |
Ynys Brechiek | St Martin's | 142 | 2.37 | Higher Town, Ynysoedd Syllan |
Ynys Aganas | St Agnes | 73 | 1.48 | Saint Agnes, Ynysoedd Syllan |
Ynys Bryher | 92 | 1.32 | Bryher | |
Ynys Keow | Gugh | |||
Ynys Gwithial | Gweal | |||
Ynys Samson | 0.38 | |||
Ynys Annet | - | 0.21 | ||
Ynys Elidius | St. Helen's | - | 0.20 | |
Ynys Teän | - | 0.16 | ||
Ynys Guen Hily | Great Ganilly | - | 0.13 | |
Ynys Men an Eskob | Bishop Rock | - | 0.13 | |
Ynys An Creeban | Crim Rocks | - | 0.13 | |
43 mân ynys arall | - | 0.50 | ||
Ynysoedd Syllan (Isles of Scilly) |
2,153 | 16.03 | Hugh Town |
(1) trefedigaeth yno hyd at 1855