Arsyllfa Frenhinol Greenwich

Lleolir Arsyllfa Frenhinol Greenwich ar fryn ym Mharc Greenwich yn Llundain. Roedd y Seryddwr Brenhinol yn gweithio yn y fan yma ac roedd yr arsyllfa ar y Prif Feridian, sef y meridian sylfaenol ar gyfer pob hydred. Heddiw, mae llinell efydd ar y lawnt yn dangos safle'r Prif Feridian ac ers 16 Rhagfyr, 1999 mae golau laser gwyrdd wedi goleuo i'r gogledd yn ystod y nos. Ymhlith y Cymry sy'n gysylltiedig a'r Arsyllfa mae John William Thomas (180512 Mawrth 1840), sy'n adnabyddus wrth ei lysenw 'Arfonwyson'.

Arsyllfa Frenhinol Greenwich
Mathastronomical observatory, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Frenhinol Greenwich, Greenwich
Agoriad swyddogol1675 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMaritime Greenwich, Royal Museums Greenwich Edit this on Wikidata
LleoliadGreenwich Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr68 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.47783°N 0.00139°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ3884877338 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganSiarl II Edit this on Wikidata
Manylion

Comisiynwyd yr arsyllfa gan y brenin Siarl II ym 1675. Adeiladwyd yr arsyllfa wreiddiol, Flamsteed House (1675-76), gan Syr Christopher Wren. Dyma'r adeilad cyntaf ym Mhrydain i gael ei adeiladu'n arbennig fel sefydliad ymchwil gwyddonol.

Nid yw'r awyr uwchben Llundain bellach yn ddigon clir ar gyfer seryddiaeth, felly symudwyd yr Arsyllfa Frenhinol i Gastell Herstmonceux ger Hailsham, Dwyrain Sussex. Adeiladwyd Sbiendrych Isaac Newton yn y fan yma ym 1967, ond symudwyd ef i La Palma yn Sbaen ym 1979. Symudodd yr Arsyllfa Frenhinol unwaith eto ym 1990, y tro yma i Gaergrawnt, ond ar ôl penderfyniad y Cyngor Ymchwil Ffiseg Gronyn a Seryddiaeth (PPARC) terfynwyd ef ym 1998. Ar ôl hynny symudwyd Swyddfa y Nautical Almanac i Labordy Rutherford Appleton ac unwaith arall i'r Canolfan Technoleg Seryddiol yng Nghaeredin.

Cyn i gyflwyno Amser Cyfesurol Cyffredinol roedd Amser Safonol Greenwich (GMT), sef amser a penderfynwyd ar ôl arsylliadau'r arsyllfa hon, yr amser sylfaenol y byd.

Mae'r pelen amser wedi a'i adeiladwyd gan y Seryddwr Brenhinol John Pond ym 1833 yn dal i gwympo pob dydd ar 13:00. Heddiw, mae yna hefyd amgueddfa offer seryddol a mordwyol sydd yn cynnwys H4, y cronomedr hydred gan John Harrison.

Arsyllfa Frenhinol Greenwich
Yr Arsyllfa ar ei bryn
Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.