Christopher Wren
Pensaer o Loegr oedd Syr Christopher Wren (20 Hydref 1632 – 25 Chwefror 1723). Ei waith enwocaf yw Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain. Cynlluniodd oddeutu 52 o eglwysi yn Ninas Llundain yn dilyn Tân Mawr Llundain yn 1666, a chaiff ei gyfrif ymhlith pensaeri mwyaf Lloegr.[1]
Christopher Wren | |
---|---|
Ganwyd | 20 Hydref 1632 (yn y Calendr Iwliaidd) East Knoyle |
Bu farw | 25 Chwefror 1723 (yn y Calendr Iwliaidd) Llundain |
Man preswyl | Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, seryddwr, mathemategydd, ffisegydd, anatomydd, academydd, gwleidydd, cynlluniwr trefol |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Aelod o Senedd 1701-02, llywydd y Gymdeithas Frenhinol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | St Clement Danes, All-Hallows-the-Great, Marlborough House, St Mary Aldermary, Eglwys Gadeiriol Sant Pawl, Ysbyty Greenwich, Ysbyty Brenhinol Chelsea, Palas Hampton Court, Palas Kensington, Old Royal Naval College |
Tad | Christopher Wren |
Priod | Faith Coghill, Jane FitzWilliam |
Plant | Christopher Wren Jr, Jane Wren, William Wren |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Ystyrir y Coleg Morwrol Brenhinol, Greenwich hefyd ymhlith ei waith enwocaf a Phalas Hampton Court.
Fe'i traethwyd mewn Lladin a gwaith Aristoteles ym Mhrifysgol Rhydychen lle astudiodd hefyd anatomeg, seryddiaeth, mathemateg ac, wrth gwrs, pensaerniaeth. Canmolwyd ei waith gwyddonol gan Isaac Newton a Blaise Pascal.
Plentyndod
golyguFe'i ganed yn East Knoyle yn Wiltshire, yn unig fab a oroesodd ei blentyndod; roedd ei dad o'r un enw: Christopher Wren (1589–1658) yn offeiriad ac enw ei fam oedd Mary Cox cyn iddi briodi. Pan aned Christopher ar 20 Hydref 1632 (392 blynedd yn ôl), roedd ei dad yn offeiriad yn East Knoyle, cyn iddo gael ei ddyrchafu'n Ddeon Windsor yn 1635. Pan fu farw tad ei fam, etifeddodd y teulu cryn dipyn o arian.[2]
Fe'i addysgwyd gartref gan ei dad a chan diwtor preifat. Ar 25 Mehefin 1650, cychwynodd ei addysg yng Ngholeg Wadham, Rhydychen.
Rhai adeiladau
golygu-
Theatr Sheldonian, Coleg Rhydychen
-
Theatr Sheldonian, Coleg Rhydychen: y tu fewn
-
'Tom Tower', Eglwys Crist, Coleg Rhydychen
-
Eglwys Gadeiriol Sant Paul; yr ochr orllewinol
-
Eglwys Gadeiriol Sant Paul; ochr ogleddol, gyda'r Chapter House
-
Eglwys Gadeiriol Sant Paul, croesfa'r de a'r gromen
-
'Y Llusern', Eglwys Gadeiriol Sant Paul
-
Eglwys Gadeiriol Sant Paul, y tu fewn i'r gromen
-
Marlborough House, Westminster
-
Palas Kensington, yr ochr ddeheuol
-
Ysbyty Greenwich, yr ochr ogleddol
-
St. Mary-le-Bow, y tu fewn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Wren, Sir Christopher: Biography from Answers.com". www.answers.com. Cyrchwyd 6 Medi 2009.
- ↑ "Wiltshire Council – Wiltshire Community History Get Wiltshire History Question Information". History.wiltshire.gov.uk. 17 May 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-11. Cyrchwyd 15 June 2013.