Ursa Major (Lladin: Arth Fawr) neu'r Arth Fawr yw un o'r cytserau enwocaf yn awyr y nos. Mae'r cytser yn cynnwys rhan sylweddol o'r wybren gogleddol.[1][2]

Yr Arth Fawr
Enghraifft o'r canlynolcytser Edit this on Wikidata
Label brodorolOrsa Maggiore Edit this on Wikidata
Rhan oNorthern celestial hemisphere Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBig Dipper Edit this on Wikidata
Enw brodorolGreat Bear Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytser Ursa Major, yr Arth Fawr, yn awyr y nos
Cytser Ursa Major mewn ffurf arth yn atlas sêr y seryddwr Hevelius o'r flwyddyn 1690. (Mae'r darlun yn dangos y wybren fel y mae hi'n dangos ar glôb wybrennol gyda chwith a'r dde wedi eu cyfnewid.)

Y cytser

golygu

Roedd cymdeithasau hynafol yn credu bod sêr yn rhan yma o'r wybren yn amlinellu patrwm arth gyda chynffon hir. Enwir ardal yma o'r awyr yr Arth Fawr, neu Ursa Major yn Lladin, i wahaniaethu rhwng efe a Ursa Minor, yr Arth Fach. UMa ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.

Oherwydd ei leoliad eithaf agos i begwn wybrennol y gogledd, mae Ursa Major yn ambegynol o rhan eang o hemisffer gogleddol y byd. Mae hyn yn golygu bod y cytser yn wastad uwchben y gorwel yn Ewrop a Gogledd America, a byth yn machlud.

Lleolir nifer o alaethau eithaf disglair yn Ursa Major, yn cynnwys Messier 81, Messier 82 a Messier 101. Oherwydd bod y cytser yn eithaf pell o'r Llwybr Llaethog yn yr awyr, mae'r nifer o glysterau sêr a nifylau disglair yn isel. Mae'r nifwl planedol Nifwl y Tylluan, M97, i'w weld yn Ursa Major.[3]

Fe ddewiswyd ardal bach yn Ursa Major am gyfres estynedig o arsylliadau yn 1995 gyda'r Telesgop Gofod Hubble. Adnabyddir y data hyn fel Maes Dyfn Hubble. Wnaeth yr arsylliadau argraff mawr ar ymchwil yn ymwneud â galaethau pell.

Yr Aradr

golygu

Adnabyddir y saith seren disgleiriaf yn Ursa Major fel Yr Aradr oherwydd roedd pobl canrifoedd yn ôl yn gweld patrwm aradr amaethyddol. Mae'r enw Saith Seren y Gogledd hefyd yn cael ei defnyddio yn Gymraeg. Mae enwau eraill yn cynnwys Y Llong Foel, Llun Y Llong, Yr Haeddel Fawr, Y Sospan, Jac a'i Wagen, a Men Carl.[4]

 
Saith seren Yr Aradr yng nghytser Ursa Major.

Adnabyddir y saith seren heddiw fel Dubhe, Merak, Phad (neu Phecda), Megrez, Alioth, Mizar a Alkaid (neu Benetnash) mewn sawl iaith yn ôl eu hen enwau Arabaidd. Mae'r llythrennau Groeg α (Alffa), β (Beta), γ (Gamma), δ (Delta), ε (Epsilon), a η (Eta) yn cael eu defnyddio yn ôl cyfundrefn yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer; felly mae Dubhe yn cael ei alw fel Alffa Ursae Majoris (neu α UMa), Merak fel Beta Ursae Majoris (neu β UMa), ag ati.[3]

Mae'r ddwy seren ar y pwynt gorllewinol, Dubhe a Merak, yn cael eu galw'n Pwyntwyr, Pwyntyddion[1] neu'r Cyfeirwyr[2] oherwydd maen nhw'n pwyntio at Seren y Gogledd (Polaris).

Y saith seren yn yr Aradr yw[3]:

Enw Bayer Enw
traddodiadol
Mantioli
ymddangosol

(gweladwy)
Math
sbectrol
Alffa Ursae Majoris (α UMa) Dubhe 1.81 K0 II
Beta Ursae Majoris (β UMa) Merak 2.37 A1 V
Gamma Ursae Majoris (γ UMa) Phad (Phecda) 2.44 A0 V
Delta Ursae Majoris (δ UMa) Megrez 3.30 A3 V
Epsilon Ursae Majoris (ε UMa) Alioth 1.79 A0
Zeta Ursae Majoris (ζ UMa) Mizar 2.40 A2 V
Eta Ursae Majoris (η UMa) Alkaid (Benetnash) 1.87 B3 V

Seren lluosog ydy Mizar gyda dwy seren yn ymddangos trwy telesgop bach. Ond mae sbectrosgopau yn dangos bod y ddwy eu hunain yn sêr dwbl. Mae seren o'r enw Alcor hefyd i'w gweld yn agos i Mizar gyda llygaid noeth.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. tt. 50–53.
  2. 2.0 2.1 Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts. tt. 153–154, 163.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23673-0. Tudalennau 1922–2005. (Yn Saesneg.)
  4. Jones, Bryn (2009). "Names of Astronomical Objects Connected With Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol (HTTP) ar 2015-09-18. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015. (Yn Saesneg.)
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.