Yr Atgyfodiad (Eben Fardd)
- Mae'r erthygl hon am y gerdd gan Eben Fardd. Ar gyfer yr Atgyfodiad yn y Beibl, gweler Atgyfodiad yr Iesu.
Pryddest hir gan Eben Fardd yw Yr Atgyfodiad (orgraff wreiddiol: Yr Adgyfodiad). Cyflwynwyd y gerdd ar gyfer cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Rhuddlan, 1850.
Y Gerdd
golyguTestun y gerdd yw Atgyfodiad yr Iesu, ond mae'r gerdd wedi'i ysgrifennu o safbwynt côr o Angylion sy'n trafod y digwyddiad. Mae bron 3,000 o linellau i'r gerdd.
Ymgais fwriadol yw'r gerdd i wireddu arwrgerdd Cristnogol epig Gymraeg, yn llinach Coll Gwynfa John Milton fel a ddisgrifiwyd (ond na chyflawnwyd erioed) gan Goronwy Owen.
Mesur
golyguY mesur a ddefnyddiodd Eben Fardd ar gyfer y Bryddest oedd Gorchan y Gyhydedd Hir, un o'r mesurau rhydd a gofnodwyd gan Iolo Morganwg. Cwpledi odliedig deuddeg sill sydd i'r mesur hon. Ym marn E. G. Millward mae'r mesur yn cyfrannu at fethiant y gerdd, gan fod yr odli'n syrffedu dros hyd y gerdd.[1]
Dylanwad
golyguEr mai aflwyddiannus fu'r gerdd yn yr Eisteddfod (cerdd symlach a byrrach o lawer gan Ieuan Glan Geirionnydd fu'n fuddugol), roedd yn ddylanwad mawr ar feirdd diweddarach aeth ati i gyfansoddi arwrgerddi Cymraeg ar yr un model, megis Emmanuel Gwilym Hiraethog, cerddi gan Llew Llwyfo ac eraill. Disgrifiodd un beirniad ar y pryd fod y gerdd wedi esgor ar "chwyldroad lled bwysig ... yn ymerodraeth Yr Awen Gymraeg".[2] Ym marn Thomas Parry roedd yr holl bryddestau hyn yn gyfangwbl ddiwerth yn llenyddol,[3] ac er bod eraill fel R. M. Jones yn barotach i amddiffyn y traddodiad[4] mae Yr Atgyfodiad ei hun yn "fethiant llenyddol" ym marn E. G. Millward.[1]
Cyfeiriadau
golyguCyhoeddwyd y gerdd ei hun yn Roberts, Howell (gol.) (1873) Gweithiau Barddonol Eben Fardd, Howell Roberts: Bangor.
- ↑ 1.0 1.1 Millward, E. G. (1988) Eben Fardd (Llên y Llenor), Caernarfon, Gwasg Pantycelyn, t15-20.
- ↑ Millward, E. G. (1988) Eben Fardd (Llên y Llenor), Caernarfon, Gwasg Pantycelyn, t17.
- ↑ Parry, (gol.) 1962, The Oxford Book of Welsh Verse, Rhydchen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t.xvi. "They did not appear to posess any poetic merit."
- ↑ Jones, R. M. (1988) 'Rhagymadrodd' yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Barddas.