William Rees (Gwilym Hiraethog)

gweinidog Annibynnol, llenor, golygydd, ac arweinydd cymdeithasol
(Ailgyfeiriad o Gwilym Hiraethog)

Llenor a gweinidog o Gymru oedd William Rees (8 Tachwedd 18028 Tachwedd 1883), neu Gwilym Hiraethog fel y'i adnabyddir.

William Rees
FfugenwGwilym Hiraethog Edit this on Wikidata
Ganwyd8 Tachwedd 1802 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Bu farw8 Tachwedd 1883 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Cymmrodorion Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Fe'i ganwyd yn Chwibren Isaf, fferm wrth droed Mynydd Hiraethog ym mhlwyf Llansannan, yn yr hen Sir Ddinbych (Conwy heddiw). Er bod ei fam yn dod o dras uchel roedd ei deulu yn dlawd ac erbyn iddo briodi yn 22 mlwydd oed roedd yn was fferm. Dyna fu ei alwedigaeth tan iddo gael ei alw i weinidogaethu gyda'r Annibynwyr ym Mostyn yn 1831. Fe ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1875 a byw hyd at ei farwolaeth yng Nghaer.

 
Carreg goffa Gwilym Hiraethog ar gapel newydd yr Annibynwyr (1902), Llansannan

Er iddo gael ei fagu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd fe ymunodd â'r Annibynwyr wedi iddynt gychwyn achos yn Llansannan yn 1828. Fe'i galwyd i Lôn Swan, Dinbych yn 1837, yna ymlaen i'r Tabernacl, Lerpwl (1843), yna i Salem yn yr un dref (1853) a diweddu ei yrfa fel gweinidog yn Grove Street, Lerpwl wedi iddo symud yno yn 1867. Bu'n pregethu yno nes iddo ymddeol ym 1875. Roedd ei frawd, Henry hefyd ymysg pregethwyr mwyaf blaengar y cyfnod.

Gwnaeth enw iddo'i hun fel pregethwr poblogaidd ac ynghyd â'i ddawn fel llenor, golygydd, gwleidydd a darlithydd fe'i enwyd gan Gwynfor Evans fel "...ffigur amlycaf trydydd chwarter y ganrif ddiwethaf pan oedd pregethwyr yn arwyr Cymru." Dywedir mai cyfraniad mwyaf Hiraethog i Gymru oedd sefydlu'r Amserau yn 1843. Yr Amserau oedd y newyddiadur Cymraeg cyntaf i lwyddo. Roedd Hiraethog ymysg cwmni da o Anghydffurfwyr radicalaidd, pobl megis Samuel Roberts Llanbrynmair, David Rees Llanelli a Ieuan Gwynedd – dywedir mai Hiraethog oedd y pennaf yn eu plith. Mynnai Hiraethog a'i gwmni o Annibynwyr radical daro'n erbyn y traddodiad pietistaidd a gadwai Gristnogion allan o'r byd politicaidd. Cydweithiai yn agos hefyd â Robert Everett, un o brif ymgyrchwyr y Cymry yn America yn erbyn caethwasiaeth.

Dywed Gwynfor Evans, er nad oedd annibyniaeth i Gymru yn rhan o'i weledigaeth, y gwelwyd "...cenedlaetholdeb gwleidyddol yn dechrau egnïo ynddo" (Seiri Cenedl, Llandysul, 1986, 205).

Bardd ac emynydd

golygu
 
Cofeb i Gwilym Hiraethog ac enwogion eraill o'r fro, yn Llansannan

Roedd Hiraethog yn fardd ac emynydd o fri. Dywedodd Pennar Davies mai ef oedd awdur emyn mwyaf yr iaith Gymraeg:

Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:
T'wysog bywyd pur yn marw,
Marw i brynu'n bywyd ni:
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â thraethu'i glod?
Dyma gariad nad a'n angof
Tra fo nefoedd wen yn bod.
Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynhonnau'r dyfnder mawr:
Torrodd holl argaeau'r nefoedd
Oedd yn gyfain hyd yn awr:
Gras a chariad megis dilyw
Yn ymdywallt yma 'nghyd,
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd.

Awdur rhyddiaith

golygu
 
Portread o'r Parchg William Rees (Gwilym Hiraethog)

Cyhoeddodd drosiad neu gyfaddasiad gwreiddiol iawn, mewn gwisg Gymreig, o Uncle Tom's Cabin gan Harriet Beecher Stowe dan y teitl Aelwyd F'Ewythr Robert, cyfrol ddeniadol a oedd yn un o werthwyr gorau ei dydd. Ysgrifennodd yn ogystal y nofel Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, sy'n rhoddi darlun difyr a chofiadwy o fywyd cefn gwlad y cyfnod. Cyfrannodd nifer o eitemau i'r wasg boblogaidd, yn arbennig yn Yr Amserau.

Llyfryddiaeth

golygu

Llyfrau Hiraethog

golygu

Astudiaethau

golygu
  • R. T. Jenkins, Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (William Lewis:Caerdydd, ail argraffiad 1954), 782