Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)
Bardd, nofelydd, canwr a newyddiadurwr o Gymru oedd Lewis William Lewis (31 Mawrth 1831 – 23 Mawrth 1901), a oedd yn adnabyddus wrth ei enw barddol Llew Llwyfo (neu "Y Llew" ar lafar).
Lewis William Lewis | |
---|---|
Llew Llwyfo tua 1875. | |
Ffugenw | Llew Llwyfo |
Ganwyd | 31 Mawrth 1831 Llanwenllwyfo |
Bu farw | 23 Mawrth 1901 Y Rhyl |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr |
Cyflogwr |
Bywgraffiad
golyguGaned ef ym mhentref Penysarn, Llanwenllwyfo, ger Amlwch, Ynys Môn. Bu'n gweithio yng ngwaith copr Mynydd Parys a gyfnod, yna bu'n brentis brethynnwr ym Mangor cyn cadw siop ei hun ym Mhensarn ac wedyn ysgol yn Llanallgo. Bu'n gweithio ar staff nifer o bapurau newydd Cymraeg mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys cyfnod fel golygydd Y Glorian yng Nghasnewydd. Bu yn yr Unol Daleithiau o 1868 hyd 1874.[1]
Daeth yn adnabyddus iawn fel canwr mewn cyngherddau, ac fel arweinydd eisteddfodau. Fel bardd, enillodd nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1888 a Llanelli 1895.[1]
Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi. Fe'i cofir hefyd fel un o arloeswyr cynnar y nofel yn Gymraeg, yn enwedig am Llewelyn Parri (1855) a Huw Huws (1860).
By farw yn Y Rhyl a chladdwyd ef ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon.[1]
Llyfryddiaeth
golyguCyhoeddiadau
golygu- Awen Ieuanc (1851)
- Llewelyn Parri: neu y Meddwyn Diwygiedig (nofel) (1855)
- Huw Huws neu y llafurwr Cymreig (nofel) (1860)
- Llyfr y Llais (1865)
- Troadau yr Olwyn (1865)
- Gemau Llwyfo (1868)
- Y Creawdwr (1871)
- Cyfrinach Cwm Erfin, a Y Wledd a'r Wyrth (nofelau)
- Buddugoliaeth y Groes (1880)
- Cydymaith yr herwheliwr: neu a gollwyd ac a gafwyd. Chwedl Wledig (1882)
- Adgofion Llew Llwyfo o'i Ymdaith yn America, ganddo ef ei hun
- Bywgraffiad Llew Llwyfo, yn llenyddol, cerddorol, ac eisteddfodol, wedi ei ysrifennu ganddo ef ei hun (Llyfrau Ceiniog Humphreys Caernarfon);
Bywgraffiad
golygu- Eryl Wyn Rowlands, Y Llew oedd ar y Llwyfan (Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, 2001). ISBN 9781903314241