Grŵp gwerin cyfoes yw Yr Hwntws maent yn canolbwyntio ar ganu caneuon gwerin o ardaloedd Morgannwg a Gwent. Prif leisydd a phrif lefarydd y grŵp yw Greg Lynn. Daw'r enw o'r gair hwntw sef llysenw ar bobl o dde Cymru.

Arddull golygu

Nodweddir cerddoriaeth y grŵp gan offerynnau gwerin a llais cryf Greg Lynn sy'n canu yn nhafodiaeth Gwenhwyseg cynhenid nifer o'r caneuon lle caledir cytseiniaid a defnyddir yr "a fain"[1] (sŵn e am e, fel y ceis yn acen ardal Maldwyn).

Ymysg un o'r caneuon a welir yn nodweddiadol o'r grŵp yw Cân Merthyr a Bachgen Bach o Dincer caneuon ddwyieithog, macaronig, fywiog a genir gan Greg Lynn.[1]

Rhyddhaodd y band alwmb 'Y Tribanwr' yn 2018 wedi ei seilio ar waith ymchwil hen lawysgrifau a llyfrau caneuon yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth gan gasglu enghreifftiau unigryw’r ffurf farddonol ‘tribannau Morgannwg’ – ffrwyth llafur y gwaith ymchwil yma oedd yr albwm ‘Y Tribanwr’ sy’n cynnwys 70 o dribannau traddodiadol wedi eu trefnu gan Nia Lynn a Bernie Killbride. Wrth ymchwilio daeth Gregg ar draws papurau D. Rhys Phillips yn adrodd hanes y tribannau.

Cyfrannodd Greg Lynn i CD amlgyfranog i ddathlu a chofnodi caneuon ganfuwyd a chyfraniad bersonol Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney i ganu gwerin Cymru, Ffylantin-tw!.[2]

Aelodau golygu

Alodau cyfredol yr Hwntws (yn 2018) yw:

Greg Lynn - prif leisydd
Nia Lynn - llais, tabwrdd, offerynnau taro
Bernard Killbride - ffidil
Imogen O’Rourke - llais, ffliwt, chwiban D
Dan B. James - gitâr, mandocello
Dean Ryan - bâs dwbl, gitâr fâs

Aelodau gwreiddiol y Band yn 1982 oedd:

Rosemary Lease - bodhrán
Mike Lease - ffidil a gitâr
Greg Lynn - llais, gitâr
Paul Hopkins - mandolin
Jethro Newton - llais

Disgograffi golygu

Ceir rhestr gyda rhagflas o ganeuon Yr Hwntws ar catalog Recordiau Sain ar y dudalen yma.[2]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Bachgen Bach o Dincer". Sianel Youtube Yr Hwntws. 2018.
  2. ttp://folk.wales/magazine/?p=443
  3. https://www.discogs.com/Yr-Hwntws-Yr-Hwntws/release/5228243
  4. https://sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd-2645[dolen marw]
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-22. Cyrchwyd 2019-01-03.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato