Yr Ymerawdwyr (teulu)

teulu o bryfaid
Aeshnidae
Austroaeschna tasmanica benywaidd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Uwchdeulu: Aeshnoidea
Teulu: Aeshnidae

Teulu o bryfaid yw Aeshnidae, sy'n cynnwys nifer o wahanol fathau o weision neidr, a'r mathau mwyaf ohonynt yng ngogledd America a thrwy Ewrop. Yn y teulu hwn hefyd y ceir y gweision neidr (a'r mursennod) cyflymaf ar wyneb y ddaear.

Disgrifiad

golygu

Mae'r ddau genera Aeshna ac Anax i'w canfod ledled y ddaear, bron. Y mwyaf o'r cwbwl yw'r Anax tristis Affricanaidd, sydd a lled adenydd o 125 mm.

 
Aeshna sp., llyn ger Stanley, Idaho.

Mae'r gweision neidr hyn yn paru wrth hedfan. Yn y dŵr mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau, neu'n eithaf agos at ddŵr. Mae'r oedolion ifanc yn deneuach na'r rhelyw o weision o deuluoedd eraill, gyda is-wefus hirach na'r cyffredin. Oddi fewn i'r dŵr maen nhw'n byw ac yn bod, yn tyfu ac yn bwyta pryfaid eraill ac ambell bysgodyn bychan iawn.

Treulia'r oedolyn y rhan fwyaf o amser yn yr awyr gyda'u pedair asgell cryf - a hynny'n ddiflino ac amser hir. Gallant hedfan ymlaen ac yn ôl, neu hofran fel hofrenydd yn yr un lle. Mae'r adenydd yn ymestyn yn llorweddol ar bob achlysur.

Genera

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Silsby, Jill. 2001. Dragonflies of the World. Smithsonian Institution Press, Washington D.C.

Dolennau allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: