Yr Ysgwrn
Ffermdy a'i leolir tua milltir i'r dwyrain o Drawsfynydd, Gwynedd, ydy Yr Ysgwrn. Mae'n dyddyn sydd wedi ei gosod ar ddau lawr â to llechi, arferai eiddew orchuddio'r waliau.[1] Credir ei fod yn dyddio'n ôl i 1519.[2]
Math | ffermdy, adeilad amgueddfa |
---|---|
Cysylltir gyda | Hedd Wyn |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trawsfynydd |
Sir | Trawsfynydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 263.5 metr |
Cyfesurynnau | 52.8942°N 3.89974°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dyma hen gartref y bardd enwog Hedd Wyn, a'r teulu yw'r perchnogion hyd heddiw. Mae'r Gadair Ddu (cadair enwog yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw, 1917) yn cael ei chadw yn y parlwr. Cyrhaeddodd y Gadair ar dren o Lerpwl, gyda lliain du drosti.
Heddiw
golyguMae'r Ysgwrn bellach yn adeilad rhestredig[3] Nid oes trydan na dŵr nac ystafell ymolchi yn y tŷ.[4] ym meddiant Parc Cenedlaethol Eryri.
Gofalodd Gerald Williams, nai Hedd Wyn ar ôl y ffermdy a'r tir am flynyddoedd cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r Parc. Am nifer o flynyddoedd roedd yn tywys ymwelwyr o gwmpas y tŷ lle dangoswyd holl gadeiriau Hedd Wyn, chwech i gyd. Ni dderbyniodd unrhyw dâl am dywys yr ymwelwyr ac nid oedd oriau agor ffurfiol, ond roedd ymwelwyr wastad yn cael eu croesawu.[5] Ganwyd Gerald yn Yr Ysgwrn yn 1929 a bu farw yn 92 mlwydd oed, yn 2021.[6]
Ers Mawrth 2012 y perchnogion newydd yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n gofalu am y cartref a'r ganolfan a chaffi, rhyw gan metr islaw'r ty. Gobeithiant ddatblygu'r ffermdy yn Nhrawsfynydd yn ganolfan i adrodd hanes Hedd Wyn ac erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.[7]
Ffilmio
golyguFfilmiwyd rhan o'r ffilm Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn. Cafodd y ffilm ei henwebu ar gyfer Oscar.
Oriel
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Llyfrau Llafar Gwlad 61: Llyfr Lloffion Yr Ysgwrn, Mawrth 2005, Gwasg Carreg Gwalch, ISBN 9780863819537, llyfr sy'n adrodd hanes Hedd Wyn a thaith y Gadair Ddu i'r Ysgwrn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Postcard of Hedd Wyn's home, 'Yr Ysgwrn', Trawsfynydd, and bardic chairs, 1918, Casglu'r Tlysau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-11. Cyrchwyd 2009-11-24.
- ↑ Hwb fawr i gynllun Yr Ysgwrn. BBC (16 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 19 Tachwedd 2012.
- ↑ "Nodweddion Tirwedd Hanesyddol: Trawsfynydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-01. Cyrchwyd 2009-11-24.
- ↑ Pryder am gartre bardd, BBC, 31 Gorffennaf 2009
- ↑ Keeper of Eisteddfod Icon Fears for Future, Daily Post, 30 Gorffennaf 2009
- ↑ Gerald Williams, Ceidwad Yr Ysgwrn, wedi marw yn 92 , Golwg360, 11 Mehefin 2021.
- ↑ http://www.alunffredjones.plaidcymru.org/news/2012/03/01/alun-ffred-yn-croesawu-achub-yr-ysgwrn/[dolen farw]