Ysbyty Calon y Ddraig

ysbyty dros dro yng Nghaerdydd

Ysbyty dros dro yng Nghaerdydd oedd Ysbyty Calon y Ddraig. Roedd yr ysbyty maes wedi'i leoli yn Stadiwm y Principality ac fe'i agorwyd ar 11 Ebrill 2020. Fe'i godwyd mewn ymateb i'r pandemig coronafirws er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion sy'n gwella, gan warchod gwelyau prin yn y prif ysbytai ar gyfer achosion mwy difrifol. Derbyniodd yr ysbyty ei enw yn dilyn cynigion gan aelodau'r cyhoedd.[1] Fe’i hagorwyd yn swyddogol ddydd Sul y Pasg 2020.

Ysbyty Calon Y Ddraig
Mathysbyty, cyn ysbyty Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Ebrill 2020 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadStadiwm y Mileniwm Edit this on Wikidata
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4781°N 3.1825°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganBwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Edit this on Wikidata
Map

O ran y nifer o welyau, dyma'r ysbyty mwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yn y DU.[2] Agorwyd yr ysbyty ar 11 Ebrill 2020 gyda lle ar gyfer 300 gwely gyda lle i ehangu i 2,000 o welyau.[3]

Ar 5 Mehefin 2020 symudwyd y cleifion a staff i ysbytai eraill. Ar ei uchaf, roedd 34 claf yn cael eu trin yno. Y disgwyl oedd byddai'r ysbyty maes yn aros ar gael rhag ofn bydd ail don o COVID-19 yn taro.[4]

Ym mis Medi 2020 cyhoeddwyd y byddai'r ysbyty dros dro yn cael ei ddadgomisiynu erbyn diwedd Hydref a dechrau Tachwedd.[5]

Logo Calon y Ddraig golygu

Yn dilyn datblygiadau agor yr ysbyty dros dro a'r defnydd o'r logo benodol gyda Draig Goch arno, bu galw gan amryw ar cyfryngau cymdeithasol am fabwysiadu'r logo fel un newydd ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol Cymru yn hytrach na'r un swyddogol sy'n darlunio croes Geltaidd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Agor 'Ysbyty Calon y Ddraig' yn Stadiwm Principality". BBC Cymru Fyw. 9 Ebrill 2020. Cyrchwyd 14 Ebrill 2020.
  2. "Coronavirus: Principality Stadium hospital taking shape". BBC News. 9 April 2020. Cyrchwyd 9 April 2020.
  3. https://twitter.com/heartwalesnews/status/1249744271470706689
  4. Principality Stadium emptied of coronavirus patients as field hospital stops admitting people and staff are redeployed (en) , WalesOnline, 6 Mehefin 2020.
  5. Dadgomisiynu ysbyty dros dro yn Stadiwm Principality , BBC Cymru Fyw, 3 Medi 2020.