Ysgol Bontnewydd
Mae Ysgol Bontnewydd yn ysgol gynradd ddwyieithog yn y Bontnewydd ger Caernarfon. Agorwyd adeilad presennol yr ysgol yn 1976. Pennaeth yr ysgol yw Llyr Rees a'r ddirprwy bennaeth yw Miss Eirian Madain.[1]
Yn 2019 mae yno wyth dosbarth gyda 194 o ddisgyblion ar y gofrestr.
Y wisg ysgol yw crys polo melyn, siwmper glas tywyll a throwsus neu sgert ddu. Mae’r ysgol yn nalgylch Ysgol Syr Hugh Owen ac yn cynnwys cymunedau a phentrefi Caeathro a Llanfaglan. Defnyddir yr adeilad gan y Clwb Brecwast a hefyd gan y cylch meithrin ac fel neuadd y pentref.
Clybiau
golyguYn yr ysgol cynhelir llawer o glybiau fel clwb celf, clwb brecwast, clwb campau’r ddraig, a’r clwb garddio, dau ohonynt dim ond ar agor yn ystod rhai tymhorau.
Clwb Celf
golyguMae’r clwb celf ar agor yn ystod tymor y Gaeaf. Mae’r clwb yn rhoi cyfle i ddisgyblion yr ysgol allu cwblhau gwaith celf i'r Urdd neu waith dosbarth. Sgiliau maent yn defnyddio yw gwehyddu, feltio a gwnïo.
Clwb Garddio
golyguYn ystod y Gwanwyn, maent yn cynnal clwb garddio. Yn y clwb yma mae ganddynt lawer o weithgareddau fel; plannu bylbiau, hadau a phlanhigion, chwynnu a gofalu am yr amgylchedd.
Clwb Campau'r Ddraig
golyguYn y clwb yma maent yn cynnal clwb chwaraeon sydd yn parhau trwy’r flwyddyn, rhan fwyaf o weithgareddau i'r sesiynau ffitrwydd yw athletau, gemau a chwaraeon tîm.
Uned Gwyrfai
golyguAgorwyd uned newydd ar safle Ysgol Bontnewydd yn Ionawr 2000. Roedd Uned Gwyrfai yn un o’r unedau cyntaf o’i fath yng Nghymru lle mae plant ag anghenion addysgol dwys yn cael addysg yn yr ysgol gynradd leol. Mae Cyngor Gwynedd, Ysgol Pendalar ac Ysgol Bontnewydd sydd yn gyfrifol am yr Uned. Mae rhwng 6-8 disgybl rhwng 7 a 11 oed yn cael eu haddysgu yno, bydd athrawes a chymorthyddion o Ysgol Pendalar yn gofalu am y plant.
Cynghorau
golyguAr ddechrau bob tymor mae plant ym mhob dosbarth CA2 (Bl2-Bl6) yn pleidleisio am un bachgen ac un ferch i'w cynrychioli ar y Cyngor Ysgol, Cyngor Eco a Chyngor y Siarter Iaith. Mae’r Cyngor Ysgol yn gyfle i wella'r ysgol drwy wrando ar farn y disgyblion, mae’n gyfle i blant fynegi eu barn a gwella eu sgiliau cyfathrebu. Mae gan yr ysgol hefyd gyngor eco gan ei bod hi yn ‘Ysgol Werdd’ ers 2010, mae hyn yn golygu eu bod nhw yn ceisio lleihau gwastraff, arbed ynni, gwarchod yr amgylchedd a byw’n iach. Yn olaf mae yna gyngor siarter iaith, y pwrpas ydi i gael y plant i siarad Cymraeg yn naturiol efo'i gilydd.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Ysgol Gynradd Bontnewydd. Estyn. Adalwyd ar 14 Chwefror 2019.