Siarter Iaith
Mae Siarter Iaith, yn gynllun gan Lywodraeth Cymru er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn cynradd ac uwchradd Cymru. Sefydlwyd y Siarter Iaith gan Gyngor Gwynedd yn wreiddiol ond yn 2016 fe'i hymestynwyd yn genedlaethol.[1] Ceir dogfennau cefnogi'r Siarter ar gyfer ysgolion ac athrawon eu canfod ar wefan porth addysg gorfodol Llywodraeth Cymru, Hwb.[2]
Enghraifft o'r canlynol | polisi cyhoeddus, polisi iaith |
---|---|
Dechreuwyd | 2016 |
Cennad golygu
Pwrpas y Siarter yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Siarter Iaith i bawb a gall pob aelod o gymuned yr ysgol gymryd rhan, cyngor yr ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol perchnogaeth lawn ar eu Siarter Iaith.
Mae’r Siarter Iaith ar waith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru. Yn ogystal mae rhaglenni eraill ar gyfer disgyblion a dysgwyr:
- oedran uwchradd ysgolion cyfrwng Cymraeg
- sydd yn dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg (cynllun Cymraeg Campus),
- oedran uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (cynllun Cymraeg bob dydd)[3]
Cymeriadau Siarter Iaith golygu
Bu i'r Siarter gyflwyno dau gymeriad newydd yn benodol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru. Roedd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.
Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach.
Mae gan gymeriadau y Siarter, Seren a Sbarc, gân arbennig, gyda’r geiriau i ganu gyda’r gân yn y fideo. Mae’r gân hefyd ar gael ar Spotify. Diolch i Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, am ysgrifennu’r geiriau ac i Osian Williams am gyfansoddi’r gerddoriaeth.[4]
Cerddoriaeth y Siarter Iaith golygu
Teg dweud bod hyrwyddo cerddoriaeth y Sîn Roc Gymraeg ar ffurf disgos neu gyngherddau gan fandiau byw,[5] a thrwy hyrwyddo gwrando ar radio neu ffrydio Cymraeg yn rhan fawr allbwn y Siarter Iaith gan ysgolion.
Ceir awr o gerddoriaeth gyfredol Gymraeg ar BBC Sounds er mwyn cefnogi ymdrechion Siarter Iaith ysgolion. Cyhoeddwyd ym mis Ioanwr 2024 gydag uchafbwyntiau cherddorol 2023.[6]
Gwerthusiad golygu
Cynhaliwyd werthusiad o'r Siarter Iaith gan Lywodraeth Cymru yn 2020. Ynddo nodwyd bod swyddogion consortia addysg yn croesawu’r egwyddor o ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer y Siarter Iaith. Fodd bynnag, canfu’r gwerthusiad hefyd fod angen mwy o eglurder ynghylch sut y bwriedir i’r fframwaith weithio yn ymarferol.
Cafwyd enghreifftiau o ysgolion yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau anffurfiol. Cafwyd tystiolaeth hefyd o ddyblygu wrth ddatblygu adnoddau ac wrth ddatblygu cysylltiadau gyda phartneriaid allanol.[7]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r Siarter Iaith" (PDF). pdf Llywodraeth Cymru. 2023. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
- ↑ "Siarter Iaith". gwefan Hwb. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
- ↑ "Siarter Iaith". gwefan Hwb. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
- ↑ "Siarter Iaith Wyt ti wedi gweld wynebau direidus y ddau yma yn ddiweddar?". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
- ↑ "Yr Adar @ Gig Siarter Iaith - Dinbych 2016". Sianel youtube 'Gweledigaeth'. 2016. Cyrchwyd 29 Ionawr 2024.
- ↑ "Miwsig y Siarter Iaith". BBC Sounds. 5 Ionawr 2024.
- ↑ "Gwerthusiad o'r Siarter Iaith". Llywodraeth Cymru. 9 Gorffennaf 2020.
Dolenni allanol golygu
- Manylion y Siarter Iaith ar wefan Llywodraeth Cymru
- Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu’r Siarter Iaith pdf gan Lywodraeth Cymru
- Ffilm ar y Siarter Iaith ar sianel Youtube 'Clwb Ysgol'