Mae Ysgol Bro Ogwr neu hefyd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr. Fe'i lleolir ar Princess Way, yn ardal Bracla o'r dref.

Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
Ysgol Bro Ogwr
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mrs Sharon Jayne
Lleoliad Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, CF31 2LN
AALl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Lliwiau      Coch a      Gwyrdd
Gwefan [1]

Yr Ysgol golygu

Ceid 428 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr yn 2017. Mae gan yr ysgol 16 dosbarth sy’n cynnwys 2 sy’n rhai oed cymysg a 2 ddosbarth meithrin. Mae 46 o ddisgyblion oed meithrin llawn amser ac 11 yn y dosbarth cyn-feithrin rhan amser.

Daw tua 5% o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg. Ychydig iawn sy’n dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Mae tua 18% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, ffigwr sy’n sylweddol is na chyfartaledd Cymru. Mae gan oddeutu 11% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Y gyllideb ysgol unigol fesul disgybl ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn 2016-2017 yw £2,952. Yr uchafswm fesul disgybl mewn ysgolion cynradd ym Mhen y bont ar Ogwr yw £4,484 a'r lleiafswm yw £2,872. Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn y 46fed safle o'r 48 ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr o safbwynt y gyllideb ysgol fesul disgybl.[1]

Addysg Uwchradd golygu

Mae disgyblion Bro Ogwr sy'n dymuno parhau gydag addysg Gymraeg yn mynd ymlaen i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, sydd yr ysgol uwchradd Gymraeg agosaf ac fe'i lleolir yn nhref Maesteg, neu i Ysgol Gyfun Llanhari.

Gwybodaeth am yr Ysgol golygu

Ceir clybiau garddio, chwaraeon a chôr yr ysgol i'r disgyblion.

Gwisg Ysgol golygu

Rhaid i'r plant wisgo gwisg ysgol sef; crys polo coch, siwmper neu gardigan gwyrdd, trowsus neu siorts llwyd, ffrog haf gwyrdd ac esgidiau duon.[2]

Cyn-ddisgyblion Adnabyddus golygu

Ymysg cyn-ddisgyblion yr ysgol mae'r chwaraewr rygbi, Josh Navidi, sydd yn chwarae i glwb (Gleision Caerdydd) a Chymru.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.