Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr yw Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, ar gyfer plant 11 i 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn 2008, agorodd ar y trydydd o Fedi gyda dim ond 128 o ddisgyblion ym mlwyddyn 7. Mae lle i 850 o ddisgyblion fynychu'r ysgol yn y dyfodol, disgwylir iddi fod yn llawn erbyn 2013.[1] Adeiladwyd yr ysgol ar hen safle rhan o Ysgol Gyfun Maesteg. Cynhaliwyd seremoni agor swyddogol ar 15 Ionawr 2009, roedd Rhodri Morgan ac arweinydd cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Mel Nott yn bresennol.[2]

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Enghraifft o'r canlynolysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2008 Edit this on Wikidata
LleoliadLlangynwyd Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthMaesteg, Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.yggllangynwyd.org.uk/ Edit this on Wikidata

Mark Jones oedd prifathro cyntaf yr ysgol.[3] Fe fuddsoddwyd dros £2.5 Miliwn i sefydlu a datblygu'r ysgol. Bydd y cynllun tymor hir yn werth £24 miliwn ac yn cael ei redeg am 25 mlynedd gan gonsortiwm Babcock a Brown.[4] Meurig Jones yw'r prifathro cyfredol (2018).

Manylion am yr Ysgol

golygu
  • Arwyddair yr ysgol yw "Dysg ... Dawn ... Dyfodol".
  • Llysoedd - Garw (coch), Ogwr (glas), Llynfi (gwyrdd)
  • Gwisg Ysgol - Gwyrddlas a llwyd         

Ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol

golygu

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Deborah Rees (2008-07-24). New Welsh school all set to open its doors. The Western Mail.
  2.  Carreg filltir i addysg Gymraeg. BBC Cymru (2009-01-15).
  3.  Dathlu addysg Gymraeg. BBC Cymru (Hydref 2008).
  4.  Cam ymlaen i addysg Gymraeg. BBC Cymru (2008-09-03).