Ysgol Gynradd Croes Atti

(Ailgyfeiriad o Ysgol Croes Atti)


Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Gymraeg yn y Fflint, Sir y Fflint yw Ysgol Gynradd Croes Atti, ar gyfer plant 3 i 11 oed, a agorwyd ym 1964.[3]

Ysgol Gynradd Croes Atti
Arwyddair Dwy ffenestr ar y byd
Sefydlwyd 1964
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr M Lloyd Jones
Dirprwy Bennaeth Mrs E Ryvar
Lleoliad Heol Caer, Y Fflint, Sir y Fflint, Cymru, CH6 5DU
AALl Cyngor Sir y Fflint
Staff 28[1]
Disgyblion 223[2]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Lliwiau Gwyrdd tywyll a choch
Gwefan ysgolcroesatti.ik.org

Roedd 224 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2003,[4] ac mae'r nifer yn gyson gyda 223 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2009, gan gynnwys 46 o blant meithrin a fynychai'n ran amser. Dim ond 1% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith.[2]

Mae'n gwasanaethu tref y Fflint ac ardal Glannau Dyfrdwy.[4]

Fel rheol, fe aiff plant o'r ysgol ymlaen i Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ym mlwyddyn 7 yn y system addysgol.

Arwyddair yr ysgol yw Dwy ffenestr ar y byd.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Staff yr ysgol. Ysgol Gynradd Croes Atti. Adalwyd ar 24 Awst 2011.
  2. 2.0 2.1  Len Jones (8 Ionawr 2010). Adroddiad Arolygiad Ysgol Croes Atti, 5–3 Tachwedd 2009. Estyn. Adalwyd ar 24 Awst 2011.
  3.  Hanes yr ysgol. Ysgol Gynradd Croes Atti. Adalwyd ar 24 Awst 2011.
  4. 4.0 4.1  Adroddiad Arolygiad 25–28 Tachwedd 2003. Estyn (30 Ionawr 2004).

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.