Ysgol gynradd gymunedol ym Mhorthmadog, Gwynedd ydy Ysgol Eifion Wyn. Enwyd yr ysgol ar ôl enw barddol Eliseus Williams. Yn adroddiad Estyn, disgrifir hi fel ysgol da hapus a gofalgar. Yno mae ymwybodaeth a balchrwydd o etifeddiaeth a treftadaeth Cymru yn cael eu hyrwyddo yn llwyddiannus.[3]

Ysgol Eifion Wyn
Sefydlwyd Wedi'r 1930au[1]
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Lleoliad Porthmadog, Gwynedd, Cymru, LL49 9NU
AALl Cyngor Gwynedd
Disgyblion 179 (2010)[2]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Lliwiau      Coch a      Llwyd
Gwefan eifionwyn.gwynedd.sch.uk

Symudwyd yr ysgol i adeilad newydd ger Canolfan Hamdden Glaslyn, agorwyd hi'n swyddogol ar 6 Tachwedd 2003 gan Bryn Terfel.[4] Erbyn hyn mae archfarchnad Tesco wedi ei hadeiladu ar hen safle'r ysgol.

Mae dwsin o athrawon ac 14 o staff ategol yn yr ysgol, y prifathro ers cryn amser, hyd Nadolig 2011, oedd Ken Hughes.[5] Daw y rhanfwyaf o blant yr ysgol (72%) o gartrefi ble mae Cymraeg yn iaith gyntaf, a 97% o'r plant yn siarad cymraeg i safon mamiaith.[3]

Enillodd disgyblion hyn yr ysgol Wobr Busnes Gwynedd yn 2007 wedi seflydu 'Cwmni Cŵl', y pwrpas oi sefydlu oedd i addysgu'r plant. Mae disgyblion yr ysgol yn mwynhau llwyddiant yn reolaidd mewn cystadleuthau megis Eisteddfod yr Urdd.

Ymysg cyn-ddisgyblion yr ysgol mae'r awdur Gareth F. Williams a'r cynhyrchwr a'r peirianwr cerddoriaeth Dyl Mei.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Yr Wylan: Cofio Taid, y 'Dahlia King'. BBC Lleol: Gogledd Orllewin (Mehefin 2004). Adalwyd ar 29 Mehefin 2012.
  2.  Adroddiad Arolygiad Ysgol Eifion Wyn, 17 Mai 2010. Estyn (20 Gorffennaf 2010). Adalwyd ar 29 Mehefin 2012.
  3. 3.0 3.1 Adroddiad Estyn 2003
  4. Agoriad swyddogol Ysgol Eifion Wyn Yr Wylan 27 Tachwedd 2003
  5. Athrawon Ysgol Eifion Wyn[dolen marw]

Dolenni allanol golygu