Dyl Mei
Cynhyrchydd recordiau a chyflwynydd radio yw Dylan Meirion Roberts (ganwyd 16 Mehefin 1981) sy'n fwy adnabyddus fel Dyl Mei.
Dyl Mei | |
---|---|
Ganwyd | Penrhyndeudraeth |
Man preswyl | Penrhyndeudraeth, Garndolbenmaen, Porthmadog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd recordiau, cyflwynydd radio |
Cyflogwr | |
Cysylltir gyda | Tudur Owen |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd ym Mhenrhyndeudraeth yn fab i Huw Meirion ('Monti') a Louie Roberts, Rheolwr Cyffredinol Siop Lyfrau ym Mhortmeirion. Symudodd ei deulu i Borthmadog ac yna Garndolbenmaen. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Mae ganddo ddau frawd, Osian a 'Monti Bach'; un chwaer, Nia; a chath o'r enw Peter Glyn.
Gyrfa
golyguRoedd yn rheolwr ar stiwdio recordio Blaen y Cae ac yn gweithio fel cynhyrchydd/peiriannydd cerddoriaeth. Bu'n gyfrifol am label Slacyr. Bellach mae'n gweithio i'r BBC ym Mangor gan gynnwys cyfrannu at raglen Tudur Owen ar Radio Cymru.
Mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o gerddorion, gan gynnwys Genod Droog, Mc Mabon, Pep Le Pew, Vates!, Kentucky AFC, Tecwyn Ifan, Texas Radio Band, Spoonidols, The Locusts, Gwyneth Glyn, Plant Duw, Pwsi Meri Mew, MC Saizmundo, Y Llongau, Y Lladron, Gwallt Mawr Penri a Cowbois Rhos Botwnnog.
Mae hefyd yn athro technoleg cerddoriaeth yn ei amser sbâr.
Gwobrau ac Anrhydeddau
golygu- Band Byw Gorau - fel rhan o Pep Le Pew - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2003
- Band y Flwyddyn - fel rhan o Pep Le Pew - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2003
- Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2003
- Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2004
- Band Byw Gorau - fel rhan o Pep Le Pew - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2005
- Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2005
- Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2006
- Band grandawyr y flwyddyn - fel rhan o Genod Droog - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2007
- Band Byw y flwyddyn fel rhan o Genod Droog - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2007