Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn, Bro Morgannwg
- Gweler hefyd: Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn, Sir y Fflint.
Ysgol uwchradd gyfun Gatholig, cyfrwng Saesneg yn y Barri, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn (Saesneg: St Richard Gwyn Catholic High School). Caiff yr ysgol ei hariannu yn wirfoddol.
Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn | |
---|---|
St Richard Gwyn Catholic High School | |
Arwyddair | Optimum Tantum Experience in all we do |
Math | Cyfun, Gwirfoddol |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Crefydd | Catholig |
Pennaeth | Mike Clinch |
Lleoliad | Lôn Argae, Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, CF63 1BL |
AALl | Bro Morgannwg |
Staff | 49 (34 athro) |
Disgyblion | 548 (2005)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–16 |
Gwefan | http://www.strichardgwyn.co.uk |
Enwir ar ôl y merthyr Cymreig, Sant Richard Gwyn. Mae'n gwasanaethu bechgyn a merched rhwng 11 ac 16 oed, a bydd disgyblion sydd eisiau mynychu chweched ddosbarth fel rheol yn mynd ymlaen i Coleg Chweched Ddosbarth Gatholig Dewi Sant.
Mae'r ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol yn cynnwys Ysgol Gynradd Sant Helen yn y Barri, ac Ysgol Gynradd Sant Joseph, Penarth.
Cysegrwyd yr ysgol i Sant Cadoc[2] tan i'r enw gael ei newid ym 1989. Symudodd yr ysgol hefyd o Coldbrook Road, Dinas Powys i Lôn Argae, y Barri.
Roedd record o 548 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005, a disgwylwyd i'r nifer hwn gynnyddu ymhellach gan fod mwy o alw wedi bod na sydd yna o lefydd ers 2000.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Inspection Report: St Richard Gwyn Catholic High School. Estyn (2005).
- ↑ Family's 'unbearable' tsunami loss. BBC (12 Ionawr 2005).