Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan

Ysgol uwchradd yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion yw Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, neu Ysgol Llambed fel ei adnabyddir ar lafar. Newidiwyd enw'r ysgol, sydd bellach yn ysgol 3-16 oed, yn Ysgol Bro Pedr. Daw traean y disgyblion o Sir Gaerfyrddin oherwydd lleoliad yr ysgol yn agos i’r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.[1]

Ysgol Gyfun Llanbedr
Pont Steffan
Ysgol Llambed
Arwyddair A Fo Ben Bid Bont
Sefydlwyd 1946
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog naturiol, Cymraeg a Saesneg
Pennaeth Mr Dylan Wyn
Lleoliad Heol Peterwell, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7BX
AALl Cyngor Sir Ceredigion
Disgyblion 700[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Gwyrdd
Gwefan http://www.ysgol-llambed.org.uk

Mr Dylan Wyn yw prifathro presennol yr ysgol. Roedd 700 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006, yn ogystal â thua 120 yn y chweched ddosbarth.[1]

Mae'n ysgol gymunedol ddwyieithog naturiol, gan fod llai na hanner y disgyblion yn dod o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, a siaradai tua hanner y disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf. Mae dau ddosbarth ym mhob grŵp oedran yn derbyn 60% o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae un dosbarth yn derbyn 40% o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd dau ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg, sydd yn astudio’r Gymraeg ac addysg gorfforol trwy gyfrwng y Gymraeg (felly yn derbyn tua 20% o'u haddysg yn Gymraeg).[1]

Ffilm o 1959 golygu

Ceir ffilm lliw mud cartref o'r Maes yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy'n rhan o'r Llyfrgell Genedlaethol. Yn y ffilm gwelir teuluoedd yn mwynhau eu hunain, pobl yn symud telynau, oedolion yn gwthio pram babi, y stondinau a criwiau sy'n amlwg yn perthyn neu'n gyfeillgar â'r ffilmiwr. Ceir hefyd glip anneglur o Dic Jones yn y Pafiliwn wrth gyhoeddi iddo ennill y Gadair.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Arolygiad: 2 Mai 2006. ESTYN (30 Mehefin 2006).
  2. "Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 1959". Gwefan British Film Institute. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023.

Dolenni allanol golygu