Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli
(Ailgyfeiriad o Ysgol Gymraeg Dewi Sant)
Ysgol gynradd Gymraeg yn Llanelli yw Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Fe'i henwir ar ôl Dewi Sant, nawddsant Cymru.
Ysgol Gymraeg Dewi Sant | |
---|---|
Arwyddair | Ymdrech a Lwydda |
Sefydlwyd | 1 Mawrth 1947 |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr Gethin Thomas |
Lleoliad | Rhodfa Bryndulais, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA14 8RS |
AALl | Cyngor Sir Gaerfyrddin |
Disgyblion | 455 (2009)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–11 |
Lliwiau | Glas golau |
Gwefan | http://www.ysgolccc.org.uk/dewisant/ |
Agorwyd Ysgol Gymraeg Dewi Sant ar Ddydd Gŵyl Dewi 1947, yn ysgoldy Capel Seion.[2] Hon oedd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf i'w chynnal yn llwyr gan Awdurdod Addysg Lleol,[3] gan gychwyn pennod newydd yn hanes addysg yng Nghymru. Olwen Williams oedd prifathrawes gyntaf yr ysgol,[2] a gwasanaethodd am 25 mlynedd. Olynwyd gan John Morris Williams, ac o dan ei arweiniad tyfodd yr ysgol i fod yn un o ysgolion cynradd mwyaf Dyfed. Erbyn 2009, roedd 455 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol.[1]
Cyn-ddisgyblion o nôd
golygu- Jon Gower, (weithiau Jonathan Gower), awdur a darlledwr yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Rod Richards, gwleidydd
- Colin Stephens, chwaraewr rygbi rhyngwladol
- Alun E Davies, chwaraewr rygbi rhyngwladol
- Stephen Perks, hyfforddwr ras gyfnewid sbrint 4x100 Prydain Fawr enillodd medal aur Olympaidd yn 2004, a prifathro Ysgol Dyffryn Aman
- Mark Longhurst, darllenwr newyddion a newyddiadurwr Sky
- Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
- Syr Deian Hopkin, cyn Is-Ganghellor Prifysgol London South Bank
- Cerith Wyn Evans, arlunydd
- Iwan M Rees, prifathro Ysol Maes y Gwendraeth
- Heather Lewis, prifathrawes Ysgol Y Strade
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Adroddiad Arolygiad Estyn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 5 Hydref 2009. Estyn (8 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
- ↑ 2.0 2.1 Llanelli: Ysgol Dewi Sant yn dathlu 60. BBC Lleol: De Orllewin. Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
- ↑ Hanes Tre'r Sosban. BBC Cymru. Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2008-11-09 yn y Peiriant Wayback