Ysgol Gymunedol Swyddffynnon
Ysgol gynradd yn Swyddffynnon oedd Ysgol Gymunedol Swyddffynnon, mae tua 5 milltir i'r gogledd o Dregaron a 2 filltir i'r de orllewin o Ystrad Meurig. Disgynodd y nifer o ddisgyblion yn yr ysgol o 29 i 9 rhwng 2002 a 2006. Daeth 1 allan o 3 o'r disgyblion o gartrefi lle roedd Saesneg yn brif iaith yr aelwyd. Er hyn nôd yr ysgol oedd i addysgu'r plant i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd.[1] Aeth y plant ymlaen i fynychu Ysgol Uwchradd Tregaron.
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd, ysgol ![]() |
---|---|
Rhanbarth | Ceredigion, Cymru ![]() |
Agorwyd yr ysgol yn 1896, yn ôl adroddiad o'r ysgol yn 1905 roedd lle i 124 o ddisgyblion yn yr ysgol, roedd 105 o ddisgyblion yno yn 1904 gyda cyfartaledd o 80 yn mynychu pob dydd.[2]
Cyhoeddwyd lluniau o ddisgyblion yr Ysgol yn 1906, 1923, 1928 a 1952 ym mhapur bro Y Barcud.[3]
Ffynonellau Golygu
- ↑ Adroddiad Estyn 2006
- ↑ "Hen gofnodion yr Ysgol, Archifdy Ceredigion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-14. Cyrchwyd 2007-10-24.
- ↑ "Mynegai papurau bro ar wefan Cyngor Ceredigion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2007-10-24.
- ↑ Pupil shortage closes primaries BBC 21 Gorffennaf 2006