Ysgol Gynradd Croes Atti
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Gymraeg yn y Fflint, Sir y Fflint yw Ysgol Gynradd Croes Atti, ar gyfer plant 3 i 11 oed, a agorwyd ym 1964.[3]
Ysgol Gynradd Croes Atti | |
---|---|
Arwyddair | Dwy ffenestr ar y byd |
Sefydlwyd | 1964 |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr M Lloyd Jones |
Dirprwy Bennaeth | Mrs E Ryvar |
Lleoliad | Heol Caer, Y Fflint, Sir y Fflint, Cymru, CH6 5DU |
AALl | Cyngor Sir y Fflint |
Staff | 28[1] |
Disgyblion | 223[2] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–11 |
Lliwiau | Gwyrdd tywyll a choch |
Gwefan | ysgolcroesatti.ik.org |
Roedd 224 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2003,[4] ac mae'r nifer yn gyson gyda 223 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2009, gan gynnwys 46 o blant meithrin a fynychai'n ran amser. Dim ond 1% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith.[2]
Mae'n gwasanaethu tref y Fflint ac ardal Glannau Dyfrdwy.[4]
Fel rheol, fe aiff plant o'r ysgol ymlaen i Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ym mlwyddyn 7 yn y system addysgol.
Arwyddair yr ysgol yw Dwy ffenestr ar y byd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Staff yr ysgol. Ysgol Gynradd Croes Atti. Adalwyd ar 24 Awst 2011.
- ↑ 2.0 2.1 Len Jones (8 Ionawr 2010). Adroddiad Arolygiad Ysgol Croes Atti, 5–3 Tachwedd 2009. Estyn. Adalwyd ar 24 Awst 2011.
- ↑ Hanes yr ysgol. Ysgol Gynradd Croes Atti. Adalwyd ar 24 Awst 2011.
- ↑ 4.0 4.1 Adroddiad Arolygiad 25–28 Tachwedd 2003. Estyn (30 Ionawr 2004).