Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Rhydfelin sydd i'r de o dref Pontypridd ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd, ysgol Gymraeg |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Medi 2024 |
Lleoliad | Rhydyfelin |
Rhanbarth | Rhondda Cynon Taf |
Fe'i hagorwyd ym mis Medi 2024 wedi penderfyniad dadleuol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton oedd i'r gogledd ddwyrain o Bontypridd yng nghyfeiriad Cilfynydd. Cyfeiriad yr ysgol yw Holly Street, Rhydfelin, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf CF37 5DB. Prifathrawes gynta'r ysgol yw Mrs C. Jones.[1]
Hanes yr Ysgol
golyguLleolir yr ysgol ar safle hen Ysgol Gynradd (Saesneg) Heol y Celyn. Roedd gwaith adeiladu'r ysgol newydd yn rhan o fuddsoddiad o £79.9 miliwn gan Gyngor Rhondda Cyngor Taf i adeiladu tair ysgol newydd; dwy ysgol gyfrwng Saesneg (Ysgol Ysgol Afon Wen, ac Ysgol Bro Taf) ac un ysgol gyfrwng Cymraeg (Ysgol Awel Taf). Mae disgyblion Ysgol Awel Taf yn dod o hen ffrwd Iaith Gymraeg ysgol Gynradd Heol y Celyn gynt (sydd wedi cau) a disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton (sydd hefyd wedi cau) a, dichon, byddant hefyd o ardaloedd Rhydfelen a Threfforest.[2]
Yr adeilad
golyguMae lle yn yr ysgol ar gyfer 540 disgybl; 480 disgybl oedran statudol a 60 lle yn y dosbarth meithrin. Mae ynddo 18 ystafell ddosbarth, ystafelloedd aml-ddefnydd, ardaloedd i'w rhannu, ystafelloedd newid, neuadd, cegin ac ardaloedd ategol. Mae Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd wedi'i chreu a gwelliannau wedi'u gwneud i ardaloedd tu allan.[3] Mae'r adeilad dau lawr wedi'i ddylunio i sicrhau Carbon Sero Net ar yr adegau pan fydd yn weithredol. Defnyddiwyd paneli solar a llenwadau arbennig yn y muriau i arbed gwres,[4]
Dolenni allanol
golygu- Gwefan dros dro Hen wefan Ysgol Pont Siôn Norton
- Tudalen yr ysgol ar wefan Estyn
- Ffrindiau Awel Taf Tudalen Facebook i gymuned yr ysgol (preifat)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf". Gwefan Cyngor RhCT. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2024.
- ↑ "Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf". Gwefan Cyngor RhCT. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2024.[dolen farw]
- ↑ "Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf". Gwefan Cyngor RhCT. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2024.[dolen farw]
- ↑ "Project Case Study - Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf". Tudalen Facebook cwmni cyflenwi Central Roofing. 9 Gorffennaf 2024.