Cilfynydd

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Cilfynydd. Saif ar lan Afon Taf, tua milltir o dref Pontypridd, a 12 milltir i'r gogledd o ddinas Caerdydd.

Cilfynydd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.625°N 3.32°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]

Hanes y pentref

golygu

Safai'r pentref bach, amaethyddol, gwreiddiol ar hen ffordd porthmyn ac fe'i galwyd ar ôl fferm a safai ar ochr ddwyreiniol y dyffryn: "Fferm Cilfynydd" lle trigai teulu'r 'Llwydiaid'. Roedd ambell dyddyn yno hefyd, rhai wedi'u codi o ganlyniad i agor Camlas Morgannwg a lifai gerllaw. Yn ôl Cyfrifiad 1881, roedd union 100 o bobl yn byw yma; erbyn 1901 tyfodd y boblogaeth i 3,500.[3] Tyfodd y pentre'n gyflym, felly, wedi sefydlu Glofa'r Albion yn 1887.

Tanchwa Glofa'r Albion

golygu

Bu damwain fawr yma ar 23 Mehefin 1894, pan ffrwydrodd y pwll, gan ladd 290 o weithwyr a 123 o geffylau. Hon oedd ail drychineb waethaf yn hanes Maes Glo De Cymru; dim ond trychineb Senghenydd yn 1913 oedd yn waeth.[4] Wedi ymchwiliad, daethpwyd i'r canlyniad mai ffrwydriad nwy achosodd y gyflafan, ond nid oedd tystiolaeth beth gynheuodd y ffrwydriad felly ni chyhuddwyd y perchnogion, yr Albion Steam Coal Company, o drosedd.

Roedd y pwll yn dal i gyflogi 991 o ddynion yn 1947, pan ddaeth dan oruchwyliaeth y Bwrdd Glo, ond caeodd yn 1966.

Pobl o Gilfynydd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Cilfynydd". rhondda-cynon-taff.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd 2009-03-14.
  4. Albion Colliery: The forgotten mining disaster; gwefan y BBC; adalwyd 3 Medi 2016.