Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton

Hen ysgol gynradd Gymraeg ger Pontypridd bu'n weithredol rhwng 1951 a 2024

Roedd Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ger pentref Cilfynydd, dwy filltir i'r gogledd ddwyrain o Bontypridd yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Sefydlwyd hi yn 1951 a'i chau ar ddiwedd tymor academaidd 2023-24 ym mis Gorffennaf 2024.[1]

Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton
Math o gyfryngauysgol Gymraeg, ysgol gynradd Edit this on Wikidata
Daeth i ben2024 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1951 Edit this on Wikidata
RhanbarthCilfynydd Edit this on Wikidata

Yn 2016 roedd ganddi 275 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, sy'n cynnwys 43 plentyn meithrin amser llawn. Roeddynt yn cael eu haddysgu mewn naw dosbarth. Roedd un o’r rhain yn ddosbarth ar gyfer plant oed meithrin ac mae dau ddosbarth yn cynnwys disgyblion o oed cymysg. Daeth ond 2.9% o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg ar yr aelwyd ac mae tua 2% o gefndir lleiafrifol ethnig neu gymysg..[2] Cyfeiriad yr ysgol yw Heol Pont Siôn Norton, Pontypridd, CF37 4ND.

Roedd dalgylch yn cynnwys pentref Cilfynydd, Trallwng, Y Comin, Ynys-y-bwl, Coed y Cwm a Glyn-coch. Y Brifathrawes yn 2024 oedd Heledd Stephens.[3]

Sefydlwyd yr ysgol yn 1951. Yn 2021 cyhoeddodd Cyngor Rhondda Cyngor Taf gynlluniau i gau'r ysgol. Yn ôl y cynllun byddai'n rhaid i blant oedd eisiau addysg Gymraeg deithio i safle newydd ar ysgol Gynradd (Saesneg) Heol y Celyn yn Rhydyfelin i'r de o Bontypridd. Cafwyd cŵyn gan riant aelod o grŵp ymgyrchu 'Pontio’r Gymraeg yn Lleol', a oedd yn pryderu y byddai’r cynlluniau’n cael effaith andwyol ar y Gymraeg yng nghymunedau gogledd Pontypridd. Canfu ymchwiliad gafodd ei lansio gan Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, fod Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi torri tair safon wrth ymgynghori dros gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton.[4]

Ysgol newydd

golygu

Collwyd yr ymgyrch ac agorwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf yn Rhydfelin i'r de o dref Pontypridd, ym mis Medi 2024. Mae'r ysgol yn cynnwys cyn-ddisgyblion Ffrwd Iaith Gymraeg ysgol Gynradd Heol y Celyn gynt a disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton i'r ysgol newydd.[5]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Wrth i Bont Sion Norton baratoi i gau ei drysau, mae teimlad chwerwfelys yn yr awyr". Tudalen Facebook YGGPSN. 17 Gorffennaf 2024.
  2. Adroddiad Estyn, Estyn, 2024, https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2020-08/Adroddiad%2520arolygiad%2520Ysgol%2520Gynradd%2520Gymraeg%2520Pont%2520Si%25C3%2583%25C2%25B4n%2520Norton%25202014.pdf.pdf.pdf.pdf, adalwyd 31 Hydref 2024
  3. "Croeso". Gwefan YGGPSN. Cyrchwyd 31 Hydref 2024.
  4. "Council didn't give Welsh language 'full consideration' with school closure plan". Nation.Cymru. 22 Ebrill 2021.
  5. "Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf". Gwefan Cyngor Rhondda Cynon Taf. Cyrchwyd 31 Hydref 2024.[dolen farw]