Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont

Ysgol gynradd Cymraeg yn Nhal-y-bont, Ceredigion ydy Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont. Amrywiodd nifer y disgyblion o 103 i 112 rhwng 2000 a 2003. Daw 55% o'r disgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg, ond gall 99% ohonynt siarad yr iaith i safon iaith gyntaf. Disgrifiodd adroddiad Estyn 2003 safon yr addysg fel da, ac ar adegau yn dda iawn.[1]

Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd, ysgol Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthCeredigion, Cymru Edit this on Wikidata
Gweler hefyd: Ysgol Tal-y-bont

Fe aiff plant o'r ysgol ymlaen i Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth ym mlwyddyn 7 y system addysgol.

Agorwyd yr ysgol gyntaf yn Nhal-y-bont yn 1841, ac mae'r adeilad hwn yn dal i sefyll gerllaw safle'r ysgol presennol.[2]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.