Ysgol Sant Curig
(Ailgyfeiriad o Ysgol Gynradd Sant Curig)
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Barri, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gynradd Sant Curig.[1] Sefydlwyd yn 1992 mewn ymateb i'r galw am addysg Gymraeg pan oedd ysgol Gymraeg Sant Ffransis yn orlawn. Symudodd nifer o'r athrawon i'r ysgol newydd pan gaewyd Ysgol Sant Ffransis yn fuan wedyn. Agorodd yr ysgol yn un o hen adeiladau ysgol ramadeg merched y Barri a adeiladwyd ym 1991, trodd yr ysgol yn ysgol gyfun, sef Ysgol Gyfun Glan Hafren heddiw.
Ysgol Gynradd Sant Curig | |
---|---|
Arwyddair | Tyfwn ar ein Taith |
Sefydlwyd | 1992 |
Math | Cynradd |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Siân Owen |
Lleoliad | Ffordd y Coleg, Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, CF62 8HQ |
AALl | Bro Morgannwg |
Disgyblion | tua 400 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | Meithrin–11 |
Lliwiau | porffor |
Gwefan | www.ysgolgymraegsantcurig.com |
Roedd 192 o ddisgyblion yn 1992, erbyn 2009 mae tua 400.
Mae'r ysgol yn nalgylch Ysgol Gyfun Bro Morgannwg ers 2000. Cyn hynny bu'n rhaid i'r plant deithio i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd ar gyfer derbyn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Adroddiad Arolygiad Ysgol Sant Curig 21 Ionawr 2008. Estyn (26 Mawrth 2008).