Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal y Tyllgoed, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr | |
---|---|
Arwyddair | Gwinllan a roddwyd i ni |
Sefydlwyd | 1998 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Dr Rhodri Thomas |
Dirprwy Bennaeth | Mr Edward Jones |
Lleoliad | Ffordd Pentrebaen, Tyllgoed, Caerdydd, Cymru, CF5 3PZ |
AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
Disgyblion | 1002 (2013) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Browngoch a du |
Gwefan | plasmawr.cardiff.sch.uk |
Hanes
golyguSefydlwyd yr ysgol ym 1998. Mae wedi ei lleoli ar hen safle Ysgol Uwchradd Fodern Waterhall.[1] Yn sgil y cynnydd yn y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd, o 1986 ymlaen defnyddiwyd y safle i ddysgu blynyddoedd 1 a 2 (yn ddiweddarach 7 ac 8) Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Parhaodd y drefn honno hyd nes yr agorwyd Ysgol Plasmawr ym 1998.
Demograffeg
golyguYn 2010 nodwyd bod 75% o'r disgyblion o gartrefi lle mae Saesneg oedd y brif iaith, a 25% o gartrefi lle mai'r Gymraeg prif iaith.[2] Yn 2013 roedd 9% o'r disgyblion wedi eu cofnodi o ddod o gefndir gwahanol i 'Gwyn-Prydeinig'.[3]
Dalgylch
golyguDyma rai o ysgolion cynradd dalgylch yr ysgol (heddiw ac yn y gorffennol):
- Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof
- Ysgol Gynradd Creigiau
- Ysgol Gynradd Gwaelod Y Garth (gall disgyblion yr uned Gymraeg hefyd ddewis Ysgol Gyfun Garth Olwg)
- Ysgol Iolo Morganwg (hyd at 1999-2000, wedyn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg)
- Ysgol Gymraeg Nant Caerau
- Ysgol Pencae (y rhan o'r dalgylch i'r gorllewin o afon Taf)
- Ysgol Pen-y-garth (hyd at 1999-2000, wedyn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg)
- Ysgol Gymraeg Pwll Coch (hyd at 2012-13, wedyn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf)
- Ysgol Gymraeg Treganna
- Ysgol Sant Curig (hyd at 1999-2000, wedyn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg)
Cyn-ddisgyblion nodedig
golygu- Ben Cabango, pêl-droediwr proffesiynnol
- Harry Hambley, arlunydd a chartwnydd
- Ruby Evans, gymnast
- Catrin Stewart, actores
Cyfeiriadau
golygu- ↑ History of Cantonian High School. Ysgol Uwchradd Cantonian (2009-12-13).
- ↑ 2009 Estyn inspection Archifwyd 2014-02-22 yn y Peiriant Wayback (accessed 14 February 2014).
- ↑ My Local School Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback (accessed 14 February 2014).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr Archifwyd 2009-09-27 yn y Peiriant Wayback