Ysgol Gyfun Bro Morgannwg


Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Cymraeg yn y Barri, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg (Ysgol Gyfun Bro Morgannwg gynt).

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Arwyddair Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd
(Saesneg: Give me your hand and we'll go to the top of the mountain)
Sefydlwyd Medi 2000
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Rhys Angell-Jones
Lleoliad Heol Colcott, Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, CF62 8YU
AALl Bro Morgannwg
Disgyblion 832 (2012)
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–18
Llysoedd Cadog, Illtud, Mihangel
Gwefan http://www.ygbm.cymru/

Sefydlwyd yr ysgol ym mis Medi 2000, yn un o hen adeiladau Ysgol Gyfun y Barri ar Heol Colcott. Erbyn 2002, roedd 24 o athrawon a 369 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mlynyddoedd 7 i 9. Daeth chwarter y disgyblion o gartrefi lle gallai un rhiant siarad Cymraeg, a 6% o gartrefi lle gall y ddau riant siarad Cymraeg.[1]

Wrth sefydlu'r ysgol, lleihaodd talgylch Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr wrth i ddisgyblion o'r Barri, a oedd gynt yn teithio i Gaerdydd ar gyfer addysg Gymraeg pob dydd, symyd i'r ysgol newydd hon.

Yn Medi 2015, cyfunwyd Ysgol Gymraeg Nant Talwg ac Ysgol Gyfun Bro Morgannwg ar yr un safle i greu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn darparu addysg o 3 i 19 oed.

Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu