Ysgol John Bright

ysgol uwchradd yn Llandudno

Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn nhref Llandudno, sir Conwy, gogledd Cymru, yw Ysgol John Bright. Fe'i henwir ar ôl y gwleidydd a diwygiwr Radicalaidd Seisnig John Bright (18111889).

Tan ddechrau'r 1970au roedd yn ysgol ramadeg. Symudwyd yr ysgol i'w safle newydd yn 2004 ar ôl gorfod gwneud ffordd i archfarchnad newydd Asda ar gyrion y dref, symudiad a fu'n bwnc dadl boeth yn yr ardal ar y pryd.

Mae cyn-brifathrawon yr ysgol yn cynnwys y gwleidydd Gareth Jones, Aelod Cynulliad Aberconwy ers Mai 2007.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.