Gareth Jones (gwleidydd)
- Gweler hefyd y tudalen gwahaniaethu Gareth Jones.
Gwleidydd Cymreig, aelod o Blaid Cymru a chyn Aelod Cynulliad yw Gareth Jones OBE (ganed 14 Mai 1939).
Gareth Jones | |
Aelod Cynulliad dros Gonwy
| |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 3 Mai 2003 | |
Aelod Cynulliad dros Aberconwy
| |
Cyfnod yn y swydd 1 Mai 2007 – 6 Mai 2011 | |
Geni | Blaenau Ffestiniog, Gwynedd | 14 Mai 1939
---|---|
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Alma mater | Prifysgol Abertawe |
Mae'n un o dri aelod Panel Cynghori cyntaf Comisiynydd y Gymraeg, gyda'i benodiad yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 hyd 31 Mawrth 2015.[1]
Ganed Gareth Jones ym Mlaenau Ffestiniog ac mae'n byw yng Nghonwy. Mae'n gyn brifathro Ysgol John Bright, Llandudno. Mae'n gynghorydd lleol ac yn arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'n aelod o Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y Blaid. Roedd yn AC Conwy o 1999 hyd 2003 a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg yn y Cynulliad. Yn dilyn hynny, etholwyd yn Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn etholaeth newydd Aberconwy ar ôl cipio'r sedd gyda mwyafrif o 1,693 yn etholiad Mai, 2007. Ni safodd i gael ei ail-ethol yn 2011.
Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys cyfiawnder cymdeithasol, yr iaith Gymraeg ac addysg.
Dolenni allanol
golygu- Proffeil ar wefan Plaid Cymru Archifwyd 2009-05-04 yn y Peiriant Wayback
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Gonwy 1999 – 2003 |
Olynydd: Denise Idris Jones |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Cynulliad dros Aberconwy 2007 – 2011 |
Olynydd: Janet Finch-Saunders |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Panel Cynghori". Comisiynydd y Gymraeg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-21. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2014.