Ysgol Llanddeusant

Ysgol gynradd yn Llanddeusant, Ynys Môn oedd Ysgol Gynradd Llanddeusant, a oedd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Adeiladwyd yn 1847.[1] Roedd yr ysgol yn nalgylch Ysgol Uwchradd Bodedern.

Ysgol Llanddeusant
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd Edit this on Wikidata
Ysgol Gynradd Llanddeusant

Hanes golygu

Agorwyd yr ysgol wreiddiol yn 1847.

Roedd 35 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005, daeth 60% o gartrefi lle roedd Cymraeg yn brif iaith ond disgwyliwyd i'r holl ddisgyblion siarad yr iaith yn rhugl erbyn cyrraedd Cyfnod Allweddol 2.[2]

Yn 2009 cyhoeddwyd cau'r ysgol oherwydd i'r nifer o ddisgyblion ddisgyn o dan 20.[3]

Er gwaethaf ymdrechion pobl leol i'w hachub[4], caewyd Ysgol Gynradd Llanddeusant ym mis Gorffennaf 2011 ar ôl gwasanaethu'r pentref am 160 mlynedd. Ar yr 2il o Hydref 2013, rhoddodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Ynys Môn ganiatâd i'r Cyngor ddymchwel adeilad yr ysgol a chodi 8 o dai ar y safle.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Hanes yr Ysgol. Ysgol Llanddeusant.
  2.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Estyn (22 Mawrth 2005).
  3. "Môn: Cau tair ysgol gynradd", 17 Rhagfyr 2007.
  4. Ysgol Llanddeusant attacks Anglesey council over closure, Daily Post, 4 Medi 2010.

Dolen allanol golygu