Llanddeusant, Ynys Môn

pentref yn Ynys Môn

Pentref a phlwyf englwysig yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, yw Llanddeusant[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r gogledd o Afon Alaw ac i'r gorllewin o gronfa ddŵr Llyn Alaw.

Llanddeusant
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn, Tref Alaw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3404°N 4.4873°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH345855 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Am y pentref o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin.

Un o atyniadau nodweddiadol y pentref yw Melin Llynnon, yr unig felin wynt sy'n parhau i weithio a chynhyrchu blawd yng Nghymru heddiw. Yn ogystal, mae yna felin ddŵr yn y pentref ar lan Afon Alaw, o'r enw 'Melin Hywel'; mae ar agor i'r cyhoedd yn yr haf ar ôl iddi gael ei hatgyweirio yn 1975. Cofnodir melin yn y plwyf yn 1352.

Melin Hywel, Llanddeusant

Ysgol golygu

Sefydlwyd Ysgol Llanddeusant yn y pentref yn 1847. Er gwaethaf ymdrechion pobl leol i'w hachub[3], caewyd Ysgol Gynradd Llanddeusant yng Ngorffennaf 2011 ar ôl gwasanethu'r pentref am 160 mlynedd. Ar yr 2il o Hydref 2013, rhoddodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Ynys Môn ganiatad i'r cyngor ddymchwel adeilad yr ysgol a chodi 8 o dai ar y safle.

Enwogion golygu

Gweinidogion golygu

  • Griffith Williams
”15 Ebrill 1894: Griffith Williams Llanddeusant. Bachgen ieuanc newydd ddechrau pregethu. Amcanu yn dda. Cyfarfod gweddi yn yr hwyr.”[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. Ysgol Llanddeusant attacks Anglesey council over closure, Daily Post, 4 Medi 2010.
  4. Dyddiadur Owen Hughes, Tregwehelyth, Bodedern, Môn (Gyda diolch i Enid Gruffudd, Gwasg y Lolfa)

Dolenni allanol golygu