Ysgol Mynydd Bychan

Ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd yw Ysgol Mynydd Bychan. Yn groes i'w henw, lleolir ar Heol Seland Newydd yn ardal Gabalfa, nid ardal y Mynydd Bychan. Sefydlwyd yr ysgol ym 1993. Y brifathrawes ers Medi 2007 yw Miss Sian Evans.[2]

Ysgol Mynydd Bychan
Arwyddair O'r fesen derwen a dyf
Sefydlwyd 1993
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Miss Sian Evans
Lleoliad Heol Seland Newydd, Gabalfa, Caerdydd, Cymru, CF14 3BR
AALl Cyngor Caerdydd
Disgyblion 236 (2015)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Gwefan ysgolmynyddbychan.cymru

Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys ardal Cathays, y Mynydd Bychan, y Rhath, y Sblot a Phen-y-lan. Mae 14% o'r disgyblion yn dod o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, daw'r rhanfwyaf o gartrefi cwbl ddi-Gymraeg. Roedd 236 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2015.[1][3]

Arwyddair yr ysgol yw "O’r fesen derwen a dyf".

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Adroddiad ar Ysgol Mynydd Bychan Rhagfyr 2015. Estyn (Tachwedd 2015). Adalwyd ar 25 Mai 2016.
  2.  School Details: Ysgol Mynydd Bychan. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
  3.  Adroddiad arolygiad Ysgol Mynydd Bychan. Estyn (14 Ebrill 2004).

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.