Ysgol Parc Y Bont

ysgol gynradd yn Llanddaniel Fab, Ynys Môn

Ysgol gynradd yn Llanddaniel Fab, Môn, yw Ysgol Parc Y Bont. Mae yn nalgylch Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Mr. Rhys Ynyr Jones yw ei phrifathro presennol. Un o gyn-ddisgyblion yr ysgol oedd Tecwyn Roberts, un o wyddonwyr NASA.

Mae Ysgol Parc y Bont yn ysgol Gymraeg ac roedd yr hen adeilad ym Mryn Celli Ddu. Agorodd yr adeilad newydd yn 2013. Cafodd yr ysgol estyniad yn 2018. Mae dros hanner y plant sy’n mynd i'r ysgol yn byw yn Llanddaniel Fab. Mae plant o Gaerwen, Dwyran, Penmynydd, Niwbwrch, Llanfairpwll, Rhosmeirch a Brynsiencyn hefyd yn mynd i'r ysgol.

Mae 20 aelod o staff yno ac mae yn 12 aelod yng Nghorff Llywodraethol yr ysgol.

Mae yna 115 o blant yn yr ysgol.

Porthaethwy yw'r dref agosaf i'r ysgol.

Gweithgareddau golygu

Dyma’r grwpiau sydd gan Ysgol Parc y Bont: Cyngor Ysgol, Ffridiau Ffitrwydd, Grŵp Gwyrdd, Meddylfryd o Dŵf a'r Siarter Iaith.

Mae Ysgol Parc Y Bont yn ysgol Gymraeg

Mae Clwb Gofal a Chlwb Brecwast yn yr ysgol. Mae Clwb Gofal yn dechrau am 07:50. Mae Clwb Brecwast yn yr ysgol sy’n dechrau am 08:15.

Mae’r Urdd yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn wythnosol. Cyn cyfyngiadau Covid, roedd amrywiaeth o glybiau yn cael eu cynnal fel Clwb Pêl-droed, Clwb Coginio, Clwb Kick-it, Clwb Gymnasteg. Mae'r plant yn cael tripiau i wersylloedd fel Glan Llyn, Caerdydd a Llangrannog.

Gwersi offerynnol sy’n cael eu dysgu yn yr ysgo yw ffliwt a'r gîtar.

Gwisg ysgol Ysgol Parc y Bont yw Siwmper/cardigan goch, crys polo gwyn, trwosus/sgert ddu neu lwyd, trowsus byr, ffrog lwyd, ffrog goch a gwyn.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato