Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Barri, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gynradd Sant Curig.[1] Sefydlwyd yn 1992 mewn ymateb i'r galw am addysg Gymraeg pan oedd ysgol Gymraeg Sant Ffransis yn orlawn. Symudodd nifer o'r athrawon i'r ysgol newydd pan gaewyd Ysgol Sant Ffransis yn fuan wedyn. Agorodd yr ysgol yn un o hen adeiladau ysgol ramadeg merched y Barri a adeiladwyd ym 1991, trodd yr ysgol yn ysgol gyfun, sef Ysgol Gyfun Glan Hafren heddiw.

Ysgol Gynradd Sant Curig
Arwyddair Tyfwn ar ein Taith
Sefydlwyd 1992
Math Cynradd
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Siân Owen
Lleoliad Ffordd y Coleg, Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, CF62 8HQ
AALl Bro Morgannwg
Disgyblion tua 400
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau Meithrin–11
Lliwiau porffor
Gwefan www.ysgolgymraegsantcurig.com

Roedd 192 o ddisgyblion yn 1992, erbyn 2009 mae tua 400.

Mae'r ysgol yn nalgylch Ysgol Gyfun Bro Morgannwg ers 2000. Cyn hynny bu'n rhaid i'r plant deithio i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd ar gyfer derbyn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.