Ysgol Talwrn
Ysgol gynradd Gymraeg ym mhentref Talwrn ger Llangefni, Ynys Môn, yw Ysgol Talwrn. Mae yn rhan o dalgylch Ysgol Gyfun Llangefni.[1]
Ysgol Talwrn | |
---|---|
![]() | |
Ysgol Gynradd Talwrn | |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Llinos Goosey |
Lleoliad | Talwrn, Ynys Môn, Cymru, LL77 7TG |
AALl | Cyngor Sir Ynys Môn |
Disgyblion | 30–40 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Roedd 40 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005,[2] ond erbyn 2009, dim ond 33 disgybl oedd yn yr ysgol, a'r bwriad oedd i'w chau, ond wedi i'r ysgol dderbyn canmoliaeth cedwyd hi ar agor.[3] Mae cymuned yr ysgol yn benderfynol o'i chadw ar agor gan fod sôn am gau'r ysgol yn dragwyddol. Fe enillodd Ysgol Gynradd Talwrn cystadleuaeth F1 mewn ysgolion drwy Brydain yn 2011.
Mae y pentref Talwrn yn rhan o gymuned Llanddyfnan ble mae 70.2% o bobl yn siaradwyr Cymraeg.
Llinos Goosey yw'r brifathrawes presennol.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Ysgol Talwrn. Cyngor Sir Ynys Môn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2006.
- ↑ Adroddiad Arolydgiad Ysgol Gynradd y Talwrn 22–24 Mehefin 2005. Estyn (20 Groffennaf 2005).
- ↑ Jamie Smith (8 Ebrill 2009). Ysgol Talwrn gets good report from Anglesey Council. Bangor and Anglesey News.