Ysgol Uwchradd Cantonian
Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd yw Ysgol Uwchradd Cantonian (Saesneg: Cantonian High School), ar gyfer disgyblion 11–18 oed. Y brifathrawes bresennol ydy Mrs Diane Gill.
Ysgol Uwchradd Cantonian | |
---|---|
Cantonian High School | |
Sefydlwyd | 1907 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mrs Diane Gill |
Lleoliad | Heol y Tyllgoed, Y Tyllgoed, Caerdydd, Cymru, CF5 3JR |
AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
Disgyblion | 1146 (2005)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Glas |
Gwefan | cantonian.cardiff.sch.uk |
Agorwyd yr ysgol yn wreiddiol o dan yr enw Canton Municipal Secondary School ar 21 Hydref 1907 gyda 85 o fechgyn. Lleolwyd ar Stryd y Farchnad yn Nhreganna, agorwyd Canolfan Celfyddydau Chapter ar yr hen safle ym 1971.[2] Roedd bechgyn a merched wedi eu gwahanu yn yr ysgol, dim ond bechgyn oedd i gychwyn gydag ysgol y merched yn agor yn ddiweddarach ar 4 Tachwedd 1907 gyda 105 o ddisgyblion. Newidiwyd enw'r ysgol i Canton High School for Boys, a'r Canton High School for Girls ym 1933. Ysgolion gramadeg oedd y ddwy.[3]
Cafodd rhan fawr o'r ysgol ei dinistrio yn ystod y blitz yn yr Ail Ryfel Byd ym 1941, a ni chwblhawyd trwsio'n adeilad hyd 1951. Cafodd dyfodol yr ysgol i godi yn y senedd ym 1960, oherwydd safon diffygiol adeilad yr ysgol ferched.[4] Ym mis Medi 1962, symudodd yr holl 612 o fechgyn a 32 athro cynorthwyol i adeilad newydd yn y Tyllgoed. Cymerwyd drosodd yr hen adeilad gan Canton High School for girls, ond ym 1963 symudodd y merched i'r safle yn y Tyllgoed hefyd, gyda'r merched ym mloc "A", a'r bechgyn ym mloc "B". Cyfunwyd yr ysgolion ag Ysgol Uwchradd Fodern Waterhall ym 1968, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1958. Roedd tua 1900 yn yr ysgol gyfun newydd, gyda'r plant ifengaf ar hen safle Waterhall. Mae hen adeiladau Waterhall yn gartref i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr erbyn heddiw.[3] Newidiwyd enw'r ysgol o Canton High School i Cantonian High School ym 1970.
Heddiw
golyguRoedd 1146 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2005, gan gynnwys 134 yn y chweched dosbarth. Does dim o'r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ond mae tua 0.3% o'r disgyblion yn siarad ieithoedd eraill fel iaith gyntaf ac yn dysgu'r Saesneg fel ail iaith.[1]
Cyn-ddisgyblion nodedig
golygu- Donald Baverstock, cynhyrchydd teledu a phennaeth BBC 1[5]
- Danielle Bux, actores a model, gwraig Gary Lineker
- John Caddick, nofiwr a gynrychiolodd Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad
- Wyn Calvin, diddanwr
- Arthur Cornish, chwaraewr rygbi dros Gymru
- Jermaine Easter, chwaraewr pêl-droed
- Ryan Green, chwaraewr pêl-droed rhyngwladol ifengaf Cymru ar un adeg
- Ellie James, cerddor Ellie Makes Music[6][7]
- Justin Kerrigan, cyfarwyddwr y ffilm Human Traffic
- Joe Ledley, chwaraewr pêl-droed
- Paul Moorcraft, athro a chyfarwyddwr Canolfan Dadansoddi Polisi Dramor yn Llundain
- Robin Nedwell, actor[8]
- Geoff Rich, newyddiadurwr a golygydd papur newydd South Wales Echo[5]
- Jenny Sullivan, awdures plant
- John Toshack, chwaraewr pêl-droed
- Alex Winters, cyflwynydd teledu[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Cantonian High School report, 24 – 28 January 2005. Estyn (30 Mawrth 2005).
- ↑ A Brief History of Chapter. Chapter. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
- ↑ 3.0 3.1 History of Cantonian High School. Ysgol Uwchradd Cantonian (2009-12-13).
- ↑ UK Parliament: Oral Answers to Questions — Education: Canton High School, Cardiff. TheyWorkForYou.com (24 Mawrth 1960). Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
- ↑ 5.0 5.1 http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/happy-100th-cantonian-high-school-2303554
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-12-07.
- ↑ http://www.walesonline.co.uk/whats-on/music/welsh-singer-songwriter-ellie-james-takes-5853843
- ↑ Canton High School Reminiscences, 1960s: Robin Nedwell.
- ↑ http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/showbiz/cbeebies-alex-winters-making-panto-1798913
Dolenni allanol
golygu- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2015-11-18 yn y Peiriant Wayback