Ysgol Uwchradd Tredelerch


Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Tredelerch, Caerdydd oedd Ysgol Uwchradd Tredelerch (Saesneg: Rumney High School). Bu'n gwasanaethu ardaloedd Tredelerch, Trowbridge a Llaneirwg yn nwyrain Caerdydd. Fe'i hagorwyd yn yr 1950au ynghyd ag Ysgol Uwchradd Llanrhymni.

Ysgol Uwchradd Tredelerch
Sefydlwyd 1950au
Caewyd 2014
Math Uwchradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Lleoliad Quarry Hill, Heol Casnewydd, Tredelerch, Caerdydd, Cymru, CF3 3XG
AALl Cyngor Caerdydd
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16

Caeodd yr ysgol ym mis Awst 2014 a throsglwyddwyd y disgyblion i Ysgol Uwchradd y Dwyrain, a etifeddodd adeiladau Ysgol Uwchradd Tredelerch cyn symud i safle newydd yn 2018.[1]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.