Llaneirwg

maestref Caerdydd

Maestref yng Nghaerdydd yw Llaneirwg,[1] neu Llaneurwg yn wreiddiol (Saesneg: St Mellons). Lleolir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas yn agos i gyffordd Porth Caerdydd ar yr M4. Rhennir y faestref yn ddau gan ffordd y B4487 (Newport Road). Mae'r rhan ogleddol yn hŷn, ac yn ffurfio'r gymuned Hen Laneirwg (neu "Bentref Llaneirwg"); mae'r rhan ddeheuol – ystâd dai newydd – yn fwy, ac yn gorwedd yng nghymuned Trowbridge.

Llaneirwg
Mathmaestref, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5272°N 3.1041°W Edit this on Wikidata
Cod OSST235815 Edit this on Wikidata
Cod postCF3 Edit this on Wikidata
Map

Dechreuodd Llaneirwg fel canolfan masnachol bychan yn Sir Fynwy, gan ddibynu ar amaethyddiaeth a theithio. Roedd perchnogion y tafardai yn gwasanaethu teithwyr a oedd yn defnyddio'r ffordd A4161, sef Ffordd Casnewydd, yr hen Ffordd Rufeinig rhwng Caerdydd a Llundain.

Daeth Llaneirwg yn rhan o ddinas Caerdydd yn ardal De Morgannwg o dan ad-drefniad Deddf Llywodraeth Lleol 1972 ar 1 Ebrill 1974.

Clwb Pêl-droed

golygu

Cynrychiolir yr ardal gan glwb pêl-droed lleol sy'n chwareae yn uchel adranna Cymru, C.P.D. STM Sports. Mae'r STM yn sefyll am St Mellons, enw Saesneg y maestref.

Geirdarddiad

golygu

Dywed chwedl y bu bryn yn yr ardal yn gartref i Eurwg, Brenin Gwent, yn ystod y cyfnod Rhufeinig-Brydeinig, ac y newidiodd ei bobl i grefydd Cristnogol a cawsont eu bedyddio yn Afon Rhymni gerllaw. Codwyd eglwys Eurwg ger safle'r hen eglwys ym 1360 ac adnabyddwyd yr ardal fel Llaneirwg ers hynny.[2].

Credir y daw'r enw Saesneg, St Mellons, o Sant Melaine o'r 6g a ddaeth yn Esgob Rennes yn Llydaw, yn hytrach na'r Mellonius enwog, Esgob Rouen o'r 4g. Fe wyddwn y magwyd un o'r ddau esgob yn ardal ystad Llaneirwg, ond mae'r ddwy stori wedi cael eu plethu dros y blynyddoedd,[3] gan adael haneswyr yn ansicr a pa un yw p'run.

Yn aml, nid yw pobl yn cyfeirio at y Llaneirwg hynafol wrth ddefnyddio'r enw Llaneirwg, ond at yr ystad dai mwy sydd wedi cael ei adeiladu i'r de-ddwyrain. Adnabyddir yr ardal hynafol fel Pentre Llaneirwg yn gyffredinol (Saesneg: Old St Mellons), tra bod yr ystad wedi dwyn yr enw Llaneirwg. Mae nifer o adeiladau ym Mhentre Llaneirwg yn dyddio o'r 19g, tra bod y rhanfwyaf o adeiladau Llaneirwg wedi cael eu codi yn ystod yr 20g hwyr a'r 21ain ganrif cynnar.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2.  Heol Maes Eirwg. BBC.
  3. Darllewnch fwy am Melaine a Mellonius

Gweler hefyd

golygu