Ysgol Uwchradd y Willows

Ysgol uwchradd yn ardal y Sblot, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd y Willows (Saesneg: Willows High School). Mae'n ysgol gymuednol cyfrwng Saesneg, sy'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 16 oed. Y prifathro presennol yw Mr Mal Davies.[2]

Ysgol Uwchradd y Willows
Willows High School
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Mal Davies
Lleoliad Willows Avenue, Y Sblot, Caerdydd, Cymru, CF24 2YE
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion 863 (2006)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16
Gwefan http://www.willows.cardiff.sch.uk/

Roedd 863 o ddisgyblion yn yr ysgol ystod arolygiad Estyn 2006, gyda 25% ohonynt yn dod o gefndiroedd lleiafrif ethnig. Daeth 18% o gartrefi lle nad oedd Saesneg na Chymraeg yn iaith gyntaf.[1]

Mae safle'r ysgol yn eang ac yn dyddio o'r 1960au; mae nifer o'r adeiladau wedi cael eu moderneiddio ers hynny. [1]

Arwyddair yr ysgol ydy "Willows High school: a learning community".[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Report: Willows High School Inspection: 9 October 2006. Estyn (11 Rhagfyr 2006).
  2.  School Details: Willows High School. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 2010-01-23.

Dolenni allanol

golygu