Ysgol y Berllan Deg
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal Llanedern, Caerdydd ydy Ysgol y Berllan Deg. Y brifathrawes bresennol yw Ms M Phillips.[1] Mae'r ysgol yn bwydo Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Ysgol y Berllan Deg | |
---|---|
Sefydlwyd | 2000au |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Ms M Phillips |
Lleoliad | Circle Way East, Llanedern, Caerdydd, Cymru, CF23 9LD |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Oedrannau | 4–11 |
Gwefan | http://www.ysgolyberllandeg.cardiff.sch.uk |
Sefydliad
golyguCyhoeddwyd cynnig statudol i agor ysgol gynradd Gymraeg yn Llanedern gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 14 Mehefin 2001. Dim ond dau wrthwynebiad a gofrestrwyd i'r syniad o sefydlu'r ysgol ar safle yn Heol Albany, cyn ei symyd i adeilad newydd ar gaeau chwarae Llanedern.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ School Details: Ysgol y Berllan Deg. Cyngor Caerdydd.
- ↑ Ysgol Gynradd Llanedeyrn. Llywodraeth Cynulliad Cymru (14 Mehefin 2001).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ysgol y Berllan Deg Archifwyd 2009-03-29 yn y Peiriant Wayback