Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Hon oedd y drydedd ysgol uwchradd Gymraeg i agor yng Nghaerdydd (ar ôl Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr).
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern | |
---|---|
Sefydlwyd | 2012 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Iwan Pritchard[1] |
Lleoliad | Heol Llanedern, Pen-y-lan, Caerdydd, Cymru, CF23 9DT |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Llysoedd | Hafren (gwyrdd), Rhymni (coch), Taf (glas) |
Lliwiau | Du a Glaswyrdd |
Cyhoeddiad | Yr Elain |
Gwefan | ysgolbroedern.org.uk |
Hanes
golyguSefydlwyd yr ysgol ym mis Medi 2012 ar ran o safle Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Symudodd i hen adeiladau Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ym Mhen-y-lan ar ddechrau Medi 2013.[2]
Ysgolion dalgylch
golygu- Ysgol Bro Eirwg
- Ysgol y Berllan Deg
- Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes (er 2016)
- Ysgol Pen y Pîl (er 2014)[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pritchard named as new head. News Edge: Industry News (26 Ionawr 2012). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.
- ↑ Gwybodaeth ychwanegol o ran trefniadau derbyn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Cyngor Caerdydd (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.
- ↑ Dyfodol trydedd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd yn ddiogel. Rhieni Dros Addysg Gymraeg (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.