Llanedern
ardal Caerdydd
Maestref a chymuned yng Nghaerdydd ydy Llanedern (Saesneg: Llanedeyrn).[1][2] Mae'r rhan helaethaf ohoni wedi'i lleoli yng nghymuned Pen-twyn.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 8,146 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5136°N 3.1514°W |
Cod SYG | W04000998 |
Cyfeiria'r enw at Edern (benthyciad o’r Lladin Eternus), un o seintiau'r Brythoniaid. Ceir enghreifftiau hanesyddol niferus o'r sillafiad Llanedarn, sydd yn dangos ôl yr ynganiad yn nhafodiaith y Wenhwyseg. Ceisiodd J. H. Matthews (archifydd Corfforaeth Caerdydd) i sicrhau’r defnydd o 'Llanedern' mor gynnar â 1905.[3]
Yn Llanedern mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern (Ysgol Uwchradd Llanedern cynt) ac ysgol gynradd Gymraeg y Berllan Deg. Mae'r enw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn rhoi i ni ynganiad cywir y faesdref.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; argraffwyd 2008; tudalen 119
- ↑ 2.0 2.1 Diferion o'r Pwll Coch, gan Dr Dylan Foster Evans; adalwyd 2 Mai 2015
- ↑ Yn y bumed gyfrol o’r Cardiff Records dywedodd J. H. Matthews: ‘The spellings “Llanedeyrn” and “Llanedarne” are alike erroneous; the first is founded on mistaken etymology, the second a barbarism’. Mae'r ffynhonnell hon wedi'i nodi yn 'Niferion o'r Pwll Coch' gan Dr Dylan Foster Evans
- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf