Ysgolion Duon
Craig fawr yn y Carneddau, Eryri yw'r Ysgolion Duon. Mae'n gorwedd tua milltir i'r dwyrain o gopa Carnedd Dafydd ac mae'n rhan o fur gogleddol y grib uchel sy'n cysylltu'r mynydd hwnnw â Charnedd Llywelyn i'r gogledd-ddwyrain. Cyfeirir ati yn Saesneg weithiau wrth yr enw (The) Black Ladders, er mai Ysgolion Duon yw'r unig enw a geir ar y map Arolwg Ordnans.
Gelwir rhan o'r grib rhwng Carnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn yn Gefn Ysgolion Duon (cefn yma yn golygu 'crib'). Mae ffrwd fynyddig Afon Llafar yn tarddu yng Nghwm Llafar wrth droed y graig.
Mae'r graig fawr hon yn wynebu'r gogledd ac mae ei gwaelod yn gorwedd tua 2,400 troedfedd uwch lefel y môr gan esgyn tua 900 troedfedd. Mae'n weddol boblogaidd gan ddringwyr creigiau ond ar y cyfan dydy'r garreg ddim yn dda. Ceir rhai llwybrau dringo gaeaf yma hefyd ac mae'r ffaith fod y graig mor uchel ac yn wynebu'r gogledd yn golygu fod rhew ac eira yn aros yma am hir.[1]
Y prif lwybrau dringo[2], o'r dwyrain i'r gorllewin, yw:
- Jacob's Ladder
- Central Gully (haf a gaeaf)
- Western Gully (haf a gaeaf; 950 troedfedd; safon VD+)
Gellir cyrraedd yr Ysgolion o gyfeiriad Bethesda trwy gerdded i fyny Cwm Llafar.